Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/382

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º17 A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu.

º18 A mi a adewais yn Israel saith o filoedd, y gliniau oll ni phlygasant i Baal, a phob genau a’r nis cusanodd ef.

º19 Felly efe a aeth oddi yno, ac a gafodd Eliseus mab Saffat yn aredig, a deuddeg cwpl o ychen o’i flaen, ac efe oedd gyda’r deuddegfed. Ac Eleias a aeth heibio iddo ef, ac a fwriodd ei fantell arno ef.

º20 Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, DOS, dychwel; canys beth a wneuthum i ti?

º21 Ac efe a ddychwelodd oddi ar ei ôl ef, ac a gymerdi gwpl o ychen, ac a’u lladdodd, ac ag offer yr ychen y berwodd efe eu cig hwynt, ac a’i rhoddodd i’r bobl, a hwy a fwytasant. Yna efe a gyfododd ac a aeth ar ôl Eleias, ac a’i gwasanaethodd ef.

PENNOD XX.

º1 A BENHADAD brenin Syria a gasglt lodd ei holl lu, a deuddeg brenin ar hugain gydag ef, a meirch, a cherbydau: ac efe a aeth i fyny, ac a warchaeodd a£ Samaria, ac a ryfelodd i’w herbya hi.

º2 Ac efe a anfonodd genhadau at Ahab brenin Israel, i’r ddinas,

º3 Ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Benhadad, Dy arian a’th aur sydd eiddof fi; dy wragedd hefyd, a’th feibion ,glanaf, ydynt eiddof fi.

º4 A brenin Israel a atebodd ac a ddy¬wedodd, Yn ôl dy air di, fy arglwydd frenin, myfi a’r byn oll sydd gennyf ydym eiddot ti.

º5 A’r cenhadau a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Fel hyn yr ymadroddodd Benhadad, gan ddywedyd, Er i mi anfon atat ti, gan ddywedyd, Dy arian a’th aur, a’th wragedd, a’th feibion, a roddi di i mi: . 6 Eto ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf fy ngweision atat ti, a hwy a chwiliant dy dŷ di, a thai dy weision: a phob peth dymunol yn dy olwg a gymerant hwy yn eu dwylo, ac a’i dygant ymaith.

º7 Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad, ac a ddywedodd, Gwybyddwch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur, ac nis gomeddais ef.

º8 Yr holl henuriaid hefyd, a’r holl bobl, a ddywedasant wrtho ef, Na wrando, ac na chytuna ag ef.

º9 Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i’m harglwydd y brenin. Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a’i gwnaf: ond ni allaf wneuthur y peth hyn. A’r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn.

º10 A Benhadad a anfonodd ato ef, ac a ddywedodd, Fel hyn y gwnelo y duwiau i mi, ac fel hyn y chwanegont, os bydd pridd Samaria ddigon o ddyrneidiau i’r holl bobl sydd i’m canlyn i.

º11 A brenin Israel a atebodd ac a ddy¬wedodd, Dywedwch wrtho, Nac ymffrostied yr hwn a wregyso ei arfau, fel yr hwn sydd yn eu diosg.

º12 A phan glywodd efe y peth hyn, (ac efe yn yfed, efe a’r brenhinoedd, yn y pebyll,) efe a ddywedodd wrth ei weision, Ymosodwch. A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas.

º13 Ac wele, rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon? wele, mi a’i rhoddaf yn dy law di heddiw, fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD,

º14 Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy? Dywedodd yntau. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau. Ac efe a ddywedodd, Pwy a drefna y fyddin? Dywedodd yntau, Tydi.

º15 Yna efe a gyfrifodd wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau, ac yr oeddynt yn ddau cant a deuddeg ar hugain: ac ar eu hoi hwynt efe a gyfrifodd yr holl bobl, cwbl o feibion Israel, yn saith mil.