Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/40

Gwirwyd y dudalen hon

Esau, yn flewog: felly efe a’i bendithiodd ef.

24 Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw.

25 Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nês attaf fi, a mi a fwyttâf o helfa fy mab, fel y’th fendithio fy enaid. Yna y dug atto ef, ac efe a fwyttaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd.

26 Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nês yn awr, a chusana fi, fy mab.

27 Yna y daeth efe yn nês, ac a’i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.

28 A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o frasder y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin:

29 Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymmed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymmed meibion dy fam i ti: melldigedig fyddo a’th felldithio, a bendigedig a’th fendithio.

30 ¶ A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o’i hela.

31 Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a’i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwyttâed o helfa ei fab, fel y’m bendithio dy enaid.

32 Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf-anedig Esau.

33 Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a’i dug i mi, a mi a fwytteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac a’i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe.

34 Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ïe finnau, fy nhad.

35 Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di.

36 Dywedodd yntau, Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: dug fy ngenedigaeth-fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyd â thi fendith i minnau?

37 Ac Isaac a attebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; âg ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnafi tithau, fy mab, weithian?

38 Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.

39 Yna yr attebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mrasder y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ym mysg gwlith y nefoedd oddi uchod;

40 Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.

41 ¶ Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesâu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.

42 A mynegwyd i Rebeccah eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di, ar fedr dy ladd di.

43 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran;

44 Ac aros gyd âg ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd;

45 Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio o hono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad o honoch eich dau mewn un dydd?

46 Dywedodd Rebeccah hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes o herwydd merched Heth: os cymmer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwennychwn fy einioes?

Pennod XXVIII.

1 Isaac yn bendithio Jacob, ac yn ei anfon ef i Mesopotamia. 9 Esau yn prïodi Mahalath merch Ismael. 12 Gweledigaeth ysgol Jacob. 18 Maen Bethel. 20 Adduned Jacob.

Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a’i bendithiodd ef: efe a