5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom.
6 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyd â’r defaid.
7 Yna y dywedodd efe, Wele etto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu yr anifeiliaid: dyfrhêwch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch.
8 A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddïadelloedd, a threiglo o honynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhâwn y praidd.
9 ¶ Tra yr ydoedd efe etto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyd â’r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio.
10 A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau y pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam.
11 A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
12 A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeccah oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i’w thad.
13 A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.
14 A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddïau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gyd âg ef fis o ddyddiau.
15 ¶ A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y’m gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog?
16 Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Leah, ac enw yr ieuangaf Rahel.
17 A llygaid Leah oedd weiniaid; ond Rahel oedd dêg ei phryd, a glandeg yr olwg.
18 A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf.
19 A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na’i rhoddi i wr arall; aros gyd â mi.
20 Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.
21 ¶ A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf atti hi.
22 A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd.
23 Ond bu yn yr hwyr, iddo gymmeryd Leah ei ferch, a’i dwyn hi atto ef; ac yntau a aeth atti hi.
24 A Laban a roddodd iddi Zilpah ei forwyn, yn forwyn i Leah ei ferch.
25 A bu, y bore, wele Leah oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y’th wasanaethais? a phaham y’m twyllaist?
26 A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf.
27 Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyd â mi etto saith mlynedd eraill.
28 A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo.
29 Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi.
30 Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Leah, ac a wasanaethodd gyd âg ef etto saith mlynedd eraill.
31 A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Leah, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy.
32 A Leah a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: o herwydd hi a ddywedodd, Dïau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngwr a’m hoffa i.
33 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.
34 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngwr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi.
35 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywed-