fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau.
4:27 Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i’w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt meigis meibion Jwda. .
4:28 A hwy a breswyliasant yn Beerseba, a Molada, a Hasar-sual,
4:29 Yn Bilha hefyd, ac yn Esem, ac yn Tolad,
4:30 Ac yn Bethuel, ac yn Horma, ac yn. Siclag,
4:31 Ac yn Beth-marcaboth, ac yn Hasar-susim, ac yn Beth-birei, ac yn Saaiaim, Dyma eu dinasoedd hwynt, nes teyrnasu o Dafydd.
4:32 A’u trefydd hwynt oedd, Etam, ac Am, Rimmon, a Thochen, ac Asan, pump o ddinasoedd.
4:33 A’u holl bentrefi hwynt hefyd, y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn hyd Baal. Dyma eu trigfannau hwynt, a’u hachau.
4:34 A Mesobab, a Jamlech, a Josa mab Amaseia,
4:35 A Joel, a Jehu mab Josibia, fab Seraia, fab Asiel,
4:36 Ac Elioenai, a Jaacoba, a Jesohaia; ac Asaia, ac Adiel, a Jesimiel, a Benaia,
4:37 A Sisa mab Sim, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia.
4:38 Y rhai hyn erbyn eu henwau a aethant yn benaethiaid yn eu teuluoedd, ac a amlhasant dylwyth eu tadau yn fawr.
4:39 A hwy a aethant i flaenau Gedor, hyd at du dwyrain y dyffryn, i geisio porfa i’w praidd.
4:40 A hwy a gawsant borfa fras, a da, a gwlad eang ei therfynau, a heddychlon.a thangnefeddus: canys y rhai a breswyliasent yno o’r blaen oedd o Cham.
4:41 A’r rhai hyn yn ysgrifenedig erbyn eu henwau a ddaethant yn nyddiau Heseceia brenhin Jwda, ac a drawsant eu pebyll a’r anheddau a gafwyd yno, ac a’u difrodasant hwy hyd y dydd hwn, a thrigasant yn eu lle hwynt; am fod porfa i’w praidd hwynt yno.
4:42 Ac ohonynt hwy, sef o feibion Simeon, yr aeth pum cant o ddynion i fynydd Seir, a Phelatia, a Nearia, a Reffaia, ac Ussiel, meibion Isi, yn ben arnynt.
4:43 Trawsant hefyd y gweddill a ddianghasai o Amalec, ac a wladychasant yno hyd y dydd hwn.
PENNOD 5
5:1 A meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, (canys efe oedd gyntaf-anedig, ond am iddo halogi gwely ei dad, rhoddwyd ei enedigaethfraint ef i feibion Joseff, mab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaethfraint:
5:2 Ganys Jwda a ragorodd ar ei frodyr, ac ohono ef y daeth blaenor: a’r enedig¬aethfraint a roddwyd i Joseff.)
5:3 Meibion Reuben cyntaf-anedig Israel oedd, Hanoch, a Phalu, Hesron a Charmi.
5:4 Meibion Joel; Semaia ei fab ef, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau,
5:5 Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau,
5:6 Beera ei fab yntau, yr hwn a gaethgludodd Tilgath-pilneser brenin Asyria: hwn ydoedd dywysog i’r Reubeniaid.
5:7 A’i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau: y pennaf oedd Jeiel, a Sechareia,
5:8 A Bela mab Asas, fab Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer, a hyd at Nebo, a Baalmeon.
5:9 Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe, hyd. y lle yr eler i’r anialwch, oddi wrth afon Ewffrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead.
5:10 Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt, trwy holl du dwyrain Gilead.
5:11 A meibion Gad a drigasant gyferbyn a hwynt yng ngwlad Basan, hyd at Salcha:
5:12 Joel y pennaf, a Saffam yr ail, a Jaanai, a Saffat, yn Basan.
5:13 A’u brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd, Michael, a Mesulam, a Seba, a Jorai, a Jacan, a Sia, a Heber, saith.
5:14 Dyma feibion Abihail fab Huri,