Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/437

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw.:

º11 A bu ddrwg gan Dafydd am i’y ARGLWYDD rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn.; .

º12 A Dafydd a ofnodd DDUW y dydd hwnnw, gan ddywedyd. Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi?

º13 Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a’i dudodd hi i dŷ Obededom y Gethiad.

º14 Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obededom, yn ei dy ef, dri mis, A’r ARGLWYDD a fendithiodd dy Obededom, a’r hyn oll ydoedd eiddo.

PENNOD 14

º1 A HIRAM brenin Tyrus a anfonodd genhadau at Dafydd, a choed cedr, a seiri meini, a seiri prennau, i adeiladu iddo ef dŷ.

º2 A gwybu Dafydd sicrhau o’r ARGLWYDD ef yn frenin ar Israel: canys yr oedd ei frenhiniaeth ef wedi ei dyrchafu yn uchel, oherwydd ei bobl Israel.

º3 A chymerth Dafydd wragedd ych-waneg yn Jerwsalem: a Dafydd a gen-hedlodd feibion ychwaneg, a merched.

º4 A dyma enwau y plant oedd iddo ef yn Jerwsalem: Sammua, a Sobab, Nathan, a Solomon,

º5 Ac Ibhar, ac Elisua, ac Elpalet,

º6 A Noga, a Neffeg, a Jaffa,

º7 Ac Elisama, a Beeliada, ac Eliffalet.

º8 A phan glybu y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio yn frenin ar holl Israel, y Philistiaid oll a aethant i fyny i geisio Dafydd: a chlybu Dafydd, ac a aeth allan yn eu herbyn hwynt.

º9 A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim.

º10 A Dafydd a ymgynghorodd â Duw, gan ddywedyd, A af fi i fyny yn erbyn y Philistiaid? ac a roddi di hwynt yn fy llaw i? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Cerdda i fyny, canys mi a’u rhoddaf hwynt yn dy law di.

º11 Felly yr aethant i fyny i Baal-perasim, a Dafydd a’u trawodd hwynt yno. A Dafydd a ddywedodd, Duw a dorrodd i mewn ar fy ngelynion trwy fy llaw i, fel rhwygo dyfroedd: am hynny y gal-wasant hwy enw y lle hwnnw Baal-perasim.

º12 A phan adawsant hwy eu duwiau, dywedodd Dafydd am eu llosgi hwynt yn tân.

º13 A thrachefn eto y Philistiaid’ a ymwasgarasant yn y dyffryn.

º14 A Dafydd a ymgynghorodd â ‘Duw drachefn; a Duw a ddywedodd wrtho, Na ddos i fyny ar eu hôl hwynt, tro ymaith oddi wrthynt, a thyred arnynt ar gyfer y morwydd.

º15 A phan glywych drwst cerddediad ym mrig y morwydd, yna dos allan i ryfel: canys y mae Duw wedi myned o’th flaen di, i daro llu y Philistiaid.

º16 A gwnaeth Dafydd megis y gorchmynasai Duw iddo; a hwy a drawsant lu y Philistiaid o Gibeon hyd Gaser.

º17 Ac enw Dafydd a aeth trwy yr holl wiedydd; a’r ARGLWYDD a roddes ei arswyd ef ar yr holl genhedloedd.

PENNOD 15

º1 A DAFYDD a wnaeth iddo dai yn ninas Dafydd, ac a baratodd le i arch Duw, ac a osododd iddi babell. 2 A Dafydd a ddywedodd, Nid yw i neb ddwyn arch Duw, ond I’r Lefiaid: canys hwynt a ddewisodd yr ARGLWYDD i ddwyn arch Duw, ac i weini iddo ef yn dragywydd.

º3 A Dafydd a gynullodd holl Israel i Jerwsalem, i ddwyn i fyny arch yr ARGLWYDD i’w lle a baratoesai efe iddi hi.

º4 A Dafydd a gynullodd feibion Aaron, a’r Lefiaid.

º5 O feibion Cohath; Uriel y pennaf, a’i frodyr, cant ac ugain.

º6 O feibion Merari; Asaia y pennaf, a’i frodyr, dau cant ac ugain.

º7 O feibion Gersom; Joel y pennaf, a’i frodyr, cant a deg ar hugain.