fwy nag a ellid eu rhifo na’u cyfrif gan luosowgrwydd.
5:7 A’r offeiriaid a ddygasant arch cyf¬amod yr ARGLWYDD i’w lle, i gafell y tŷ, i’r cysegr sancteiddiolaf, hyd dan adenydd y ceriwbiaid.
5:8 A’r ceriwbiaid oedd yn lledu eu hadenydd dros le yr arch: a’r ceriwbiaid a gysgodent yr arch a’i throsolion, oddi arnodd.
5:9 A thynasant allan y trosolion, fel y gwelid pennau y trosolion o’r arch o flaen y gafell, ac ni welid hwynt oddi allan. Ac yno y mae hi hyd y dydd hwn.
5:10 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech a roddasai Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaethai yr ARGLWYDD gyfamod â meibion Israel, pan ddaethant hwy allan o’r Aifft.
5:11 A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad:
5:12 Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt-hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â’u meibion hwynt, ac â’u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn.
5:13 Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr ARGLWYDD; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbolau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr ARGLWYDD;
5:14 Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai dŷ DDUW.
PENNOD 6 6:1 Yna y llefarodd Solomon, Yr AR¬GLWYDD a ddywedodd yr arhosai efe yn y tywyllwch;
6:2 A minnau a adeiledais dŷ yn drigfa i ti, a lle i’th breswylfod yn dragywydd.
6:3 A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel: a holl gynulleidfa Israel oedd yn sefyll.
6:4 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a lefarodd â’i enau wrth Dafydd fy nhad, ac a gwblhaodd â’i ddwylo, gan ddywedyd,
6:5 Er y dydd y dygais i fy mhobl allan o wlad yr Aifft, ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ, i fod fy enw ynddo; ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel:
6:6 Ond mi a etholais Jerwsalem, i fod fy enw yno; ac a ddewisais Dafydd i fod ar fy mhobl Israel.
6:7 Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhad adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel.
6:8 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrth Dafydd fy nhad, Oherwydd bod yn dy fryd di adeiladu tŷ i’m henw i, da y gwnaethost fod hynny yn dy galon:
6:9 Er hynny nid adeiledi di y tŷ; ond dy fab di, yr hwn a ddaeth allan o’th lwynau, efe a adeilada y tŷ i’m henw i.
6:10 Am hynny yr ARGLWYDD a gwbl¬haodd ei air a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn lle Dafydd fy nhad, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefar¬odd yr ARGLWYDD, ac a adeiledais dŷ i enw ARGLWYDD DDUW Israel.
6:11 Ac yno y gosodais yr arch; yn yr hon y mae cyfamod yr ARGLWYDD, yr hwn a amododd efe a meibion Israel.
6:12 A Solomon a safodd o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngŵydd holl gynull¬eidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo:
6:13 Canys Solomon a wnaethai bulpud pres, ac a’i gosodasai yng nghanol y cyntedd, yn bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei led, a thri chufydd ei uchder; ac a safodd arno, ac a ostyngodd ar ei liniau gerbron holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd:
6:14 Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Israel, nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaear; yn cadw cyfamod â thrugaredd a’th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di a’u holl galon:
6:15 Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â’th enau, felly y cwblheaist â’th law, megis y mae y dydd hwn.