nodd y bobl oedd gyd âg ef, a’r defaid, a’r eidionau, a’r camelod, yn ddwy fintai;
8 Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddïangol.
9 ¶ A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!
10 Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was: oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.
11 Achub fi, attolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod o hono a’m taro, a’r fam gyd â’r plant.
12 A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddïau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.
13 ¶ Ac yno y llettŷodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth i’w law ef y cymmerth efe anrheg i’w frawd Esau;
14 Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,
15 Deg ar hugain o gamelod blithion a’u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asenod, a deg o ebolion.
16 Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyrr o’r neilldu: ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyrr a’i gilydd.
17 Ac efe a orchymynodd i’r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr âi? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o’th flaen di?
18 Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hol ni.
19 Felly y gorchymynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.
20 A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hol ni. Oblegid, eb efe, boddlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.
21 Felly yr anrheg a aeth trosodd o’i flaen ef: ac efe a lettŷodd y noson honno yn y gwersyll.
22 Ac efe a gyfododd y noson honno, a gymmerth ei ddwy wragedd, a’i ddwy law-forwyn, a’i un mab ar ddeg, ac a aeth dros rŷd Jabboc.
23 Ac a’u cymmerth hwynt, ac a’u trosglwyddodd trwy yr afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.
24 ¶ A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gwr âg ef nes codi y wawr.
25 A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chysswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cysswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech o hono âg ef.
26 A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a attebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi.
27 Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a attebodd, Jacob.
28 Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyd â Duw fel tywysog, a chyd â dynion, ac a orchfygaist.
29 A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, attolwg, dy enw. Ac yntau a attebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef.
30 A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a dïangodd fy einioes.
31 A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o’i glun.
32 Am hynny plant Israel ni fwyttânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cysswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chysswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.
Pennod XXXIII.
1 Caredigrwydd Jacob ac Esau wrth gyfarfod. 17 Jacob yn dyfod i Succoth; 18 yn prynu maes yn Salem, ac yn adeiladu allor, a’i henwi El-Elohe-Israel.