tŷ hwn eiddo DUW mewn llawenydd;
6:17 Ac a offrymasant wrth gysegru y tŷ hwn eiddo Duw, gant o ychen, dau cant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn, a deuddeg o fychod geifr, yn bech-aberth dros Israel, yn ôl rhifedi llwythau Israel.
6:18 Gosodasant hefyd yr offeiriaid yn eu diosbarthiadau, a’r Lefiaid yn eu cylchoedd hwythau, i wasanaeth DUW yn Jerwsalem, yn ôl ysgrifen llyfr Moses.
6:19 Meibion y gaethglud hefyd a gadwasant y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis cyntaf.
6:20 Canys yr offeiriaid a’r Lefiaid a ymlanhasant yn gytûn, yn lân i gyd oll, ac a aberthasant y Pasg dros holl feibion y gaethglud, a thros eu brodyr yr offeiriaid, a throstynt eu hunain.
6:21 A meibion Israel, y rhai a ddychwelasent o’r gaethglud, a phob un a ymneilltuasai oddi wrth halogedigaeth cenhedloedd y wlad atynt hwy, i geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a fwytasant,
6:22 Ac a gadwasant ŵyl y bara croyw saith niwrnod mewn llawenydd: canys yr ARGLWYDD a’u llawenhasai hwynt, ac a droesai galon brenin Asyria atynt hwy, i’w cynorthwyo hwynt yng ngwaith tŷ DDUW, DUW Israel.
PENNOD 7
7:1 Ac wedi y pethau hyn, yn nheyrnasiad Artacsercses brenin Persia, Esra, mab Seraia, fab Asareia, fab Hilceia,
7:2 Fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitub,
7:3 Fab Amareia, fab Asareia, fab Meraioth,
7:4 Fab Seraheia, fab Ussi, fab Bucci,
7:5 Fab Abisua, fab Phinees, fab Eleasar, fab Aaron yr offeiriad pennaf:
7:6 Yr Esra hwn a aeth i fyny o Babilon; ac efe oedd ysgrifennydd cyflym yng nghyfraith Moses, yr hon a roddasai ARGLWYDD DDUW Israel: a’r brenin a roddes iddo ef ei holl ddymuniad, fel yr ydoedd llaw yr ARGLWYDD ei DDUW arno ef.
7:7 A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses.
7:8 Ac efe a ddaeth i Jerwsalem yn y pumed mis, yr hwn oedd yn y seithfed flwyddyn i’r brenin.
7:9 Canys ar y dydd cyntaf o’r mis cyntaf y dechreuodd efe fyned i fyny o Babilon; ac ar y dydd cyntaf o’r pumed mis y daeth efe i Jerwsalem, fel yr oedd daionus law ei DDUW gydag ef.
7:10 Canys Esra a baratoesai ei galon i geisio cyfraith yr ARGLWYDD, ac i’w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau.
7:11 A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr ARGLWYDD, a’i ddeddfau ef i Israel.
7:12 Artacsercses brenin y brenhinoedd at Esra yr offeiriad, ysgrifennydd deddf DUW y nefoedd, perffaith dangnefedd, a’r amser a’r amser.
7:13 Myfi a osodais orchymyn, fod i bwy bynnag yn fy nheyrnas i o bobl Israel, ac o’i offeiriaid ef, a’i Lefiaid, sydd ewyllysgar i fyned i Jerwsalem, gael myned gyda thi.
7:14 Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy DDUW yr hon sydd yn dy law di,
7:15 Ac i ddwyn yr arian a’r aur a offrymodd y brenin a’i gynghoriaid, ohonynt eu hunain, i DDUW Israel, yr hwn y mae ei breswylfa yn Jerwsalem,
7:16 A’r holl arian a’r aur a fedrych ei gael yn holl dalaith Babilon, gydag offrymau gwirfodd y bobl a’r offeiriaid, y rhai a offrymant ohonynt eu hunain tuag at dŷ eu Duw yn Jerwsalem:
7:17 Fel y prynych yn ebrwydd â’r arian hynny ychen, hyrddod, ŵyn, a’u bwyd-offrymau, a’u diod-offrymau, a’u hoffrwm hwynt ar allor tŷ eich Duw yn Jerwsalem.
7:18 A’r hyn a fyddo da gennyt ti, a chan dy frodyr, ei wneuthur a’r rhan arall o’r arian a’r aur, gwnewch yn ôl ewyllys eich DUW.
7:19 A’r llestri, y rhai a roddwyd i ti i wasanaeth tŷ dy DDUW, dod adref o flaen dy DDUW yn Jerwsalem.