4:3 A Thobeia yr Ammoniad oedd yn ei ymyl, ac efe a ddywedodd, Er eu bod hwy yn adeiladu, eto ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerrig hwynt.
4:4 Gwrando, O ein Duw; canys yr ydym yn ddirmygus: dychwel hefyd eu gwaradwydd ar eu pennau hwynt, a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed:
4:5 Ac na orchuddia eu hanwiredd hwynt, ac na ddileer eu pechod hwynt o’th ŵydd di: canys digiasant dydi gerbron yr adeiladwyr.
4:6 Felly nyni a adeiladasom y mur: a chyfannwyd yr holl fur hyd ei hanner: canys yr oedd gan y bobl galon i weithio.
4:7 Ond pan glybu Sanbalat, a Thobeia, a’r Arabiaid, a’r Ammoniaid, a’r Asdodiaid, gwbl gyweirio muriau Jerwsalem, a dechrau cau yr adwyau; yna y llidiasant yn ddirfawr:
4:8 A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem, ac i’w rhwystro.
4:9 Yna y gweddiasom ar ein DUW, ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nos, o’u plegid hwynt.
4:10 A Jwda a ddywedodd, Nerth y cludwyr a wanhaodd, a phridd lawer sydd, fel na allwn ni adeiladu y mur.
4:11 A’n gwrthwynebwyr a ddywedasant, Ni chânt wybod, na gweled, nes i ni ddyfod i’w mysg hwynt, a’u lladd, a rhwystro eu gwaith hwynt.
4:12 A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt, dywedasant wrthym ddengwaith, O’r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni, y byddant arnoch chwi.
4:13 Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf, o’r tu ôl i’r mur, ac yn y lleoedd uchaf; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â’u cleddyfau, â’u gwaywffyn, ac a’u bwâu.
4:14 A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr ARGLWYDD mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai.
4:15 A phan glybu ein gelynion fod peth yn hysbys i ni, DUW a ddiddymodd eu cyngor hwynt, a ninnau oll a ddychwelasom at y mur, bawb i’w waith.
4:16 Ac o’r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a’u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a’r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda.
4:17 Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a’r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac a’r llaw arall yn dal arf.
4:18 Canys pob un o’r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun, ac yn adeiladu: a’r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i.
4:19 A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd.
4:20 Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn, yno ymgesglwch atom. Ein DUW ni a ymladd drosom.
4:21 Felly yr oeddem ni yn gweithio yn y gwaith: a’u hanner hwynt yn dal gwaywffyn, o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y sêr.
4:22 Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl, Lletyed pob un â’i was yn Jerwsalem, fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos, a’r dydd mewn gwaith.
4:23 Felly myfi, a’m brodyr, a’m gweision, a’r gwylwyr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad, ond a ddiosgai pob un i’w golchi.
PENNOD 5
5:1 Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a’u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr.
5:2 Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a’n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.
5:3 Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a’n gwinllannoedd, a’n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn.
5:4 Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu