Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/518

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

2:13 Yna fel hyn y deuai y llances at y brenin; pa beth bynnag a ddywedai hi amdano a roddid iddi, i fyned gyda hi o dŷ y gwragedd i dŷ y brenin.

2:14 Gyda’r hwyr yr âi hi i mewn, a’r bore hi a ddychwelai i dŷ arall y gwragedd, dan law Saasgas, ystafellydd y brenin, ceidwad y gordderchadon: ni ddeuai hi i mewn at y brenin mwyach, oddieithr i’r brenin ei chwennych hi, a’i galw hi wrth ei henw.

2:15 A phan ddigwyddodd amser Esther, merch Abihail ewythr Mordecai, yr hon a gymerasai efe yn ferch iddo, i fyned i mewn at y brenin, ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedasai Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd: ac Esther oedd yn cael ffafr yng ngolwg pawb a’r oedd yn edrych arni.

2:16 Felly Esther a gymerwyd at y brenin Ahasferus, i’w frenhindy ef, yn y degfed mis, hwnnw yw mis Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef.

2:17 A’r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gafodd ffafr a charedigrwydd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl wyryfon; ac efe a osododd y deyrngoron ar ei phen hi, ac a’i gwnaeth yn frenhines yn lle Fasti.

2:18 Yna y gwnaeth y brenin wledd fawr i’w holl dywysogion a’i weision, sef gwledd Esther; ac efe a wnaeth ryddid i’r taleithiau, ac a roddodd roddion yn ôl gallu y brenin.

2:19 A phan gasglwyd y gwyryfon yr ail waith, yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin.

2:20 Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl, na’i phobl; megis y gorchmynai Mordecai iddi: canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywedasai Mordecai, fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gydag ef.

2:21 Yn y dyddiau hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin, y llidiodd Bigthan a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, sef o’r rhai oedd yn cadw y trothwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.

2:22 A’r peth a wybu Mordecai; ac efe a’i mynegodd i Esther y frenhines; ac Esther a’i dywedodd wrth y brenin, yn enw Mordecai.

2:23 A phan chwilwyd y peth, fe a gafwyd felly: am hynny y crogwyd hwynt ill dau ar bren. Ac ysgrifennwyd hynny mewn llyfr cronicl gerbron y brenin.

PENNOD 3

3:1 Wedi y pethau hyn, y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman mab Hammedatha yr Agagiad, ac a’i dyrchafodd ef; gosododd hefyd ei orseddfainc ef goruwch yr holl dywysogion oedd gydag ef.

3:2 A holl weision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, oedd yn ymgrymu, ac yn ymostwng i Haman; canys felly y gorchmynasai y brenin amdano ef: ond nid ymgrymodd Mordecai, ac nid ymostyngodd.

3:3 Yna gweision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, a ddywedasant wrth Mordecai, Paham yr ydwyt ti yn troseddu gorchymyn y brenin?

3:4 Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn, eto ni wrandawai efe arnynt hwy; am hynny y mynegasant i Haman, i edrych a safai geiriau Mordecai: canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe.

3:5 A phan welodd Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu, nac yn ymostwng iddo, Haman a lanwyd o ddicllonedd.

3:6 Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan; canys mynegasant iddo bobl Mordecai: am hynny Haman a geisiodd ddifetha yr holl Iddewon, y rhai oedd trwy holl frenhiniaeth Ahasferus, sef pobl Mordecai.

3:7 Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i’r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.

3:8 A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd, trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a’u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid