20:13 Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau:
20:14 Ei lwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef.
20:15 Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a’i chwyda: Duw a’i tyn allan o’i fol ef.
20:16 Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a’l lladd ef.
20:17 Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.
20:18 Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.
20:19 Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd;
20:20 Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o’r hyn a ddymunodd.
20:21 Ni bydd gweddill o’i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef.
20:22 Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno.
20:23 Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigo¬faint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.
20:24 Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a’r bwa dur a’i trywana ef.
20:25 Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno.
20:26 Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tan heb ei chwythu a’i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir.
20:27 Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef.
20:28 Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef.
20:29 Dyma ran dyn annuwiol gan DDUW; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan DDUW.
PENNOD 21
21:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,
21:2 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur.
21:3 Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch.
21:4 A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd?
21:5 Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau.
21:6 Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd.
21:7 Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth?
21:8 Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt, a’u hiliogaeth yn eu golwg.
21:9 Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen DUW arnynt hwy.
21:10 Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla.
21:11 Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a’u bechgyn a neidiant.
21:12 Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ.
21:13 Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i’r bedd.
21:14 Dywedant hefyd wrth DDUW, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd.
21:15 Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno?
21:16 Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi.
21:17 Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? DUW a ran ofidiau yn ei ddig.
21:18 Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt.
21:19 DUW a guddia ei anwiredd ef i’w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a’i gwybydd.
21:20 Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog.
21:21 Canys pa wynfyd sydd ganddo efyn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef?
21:22 A ddysg neb wybodaeth i DDUW? gan ei fod yn barnu y rhai uchel.