Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/540

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

22:29 Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, Y mae goruchafiaeth; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg.

22:30 Efe a wareda ynys y diniwed; a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi.

PENNOD 23

23:1 A Job a atebodd ac a ddywedodd,

23:2 Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid.

23:3 O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef! .

23:4 Trefnwn fy mater ger ei fron efe: a llanwn fy ngenau â rhesymau.

23:5 Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf.

23:6 A ddadlau efe i’m herbyn a helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof.

23:7 Yno yr uniawn a ymresymai ag ef; felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr.

23:8 Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw fe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef:

23:9 Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled:

23:10 Ond efe a edwyn fy ffordd i: wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur.

23:11 Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni wyrais.

23:12 Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol.

23:13 Ond y mae efe yn un, a phwy a’i try ef? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a’i gwna.

23:14 Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau.

23:15 Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef.

23:16 Canys DUW a feddalhaodd fy nghalon, a’r Hollalluog a’m cythryblodd:

23:17 Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd.

PENNOD 24

24:1 Paham, gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Hollalluog, na welai y rhai sydd yn ei adnabod ef, ei ddyddiau ef?

24:2 Y mae rhai yn symudo terfynau; yn ysglyfaethu defaid, ac yn ymborthi arnynt.

24:3 Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith: maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl.

24:4 Maent yn troi yr anghenog allan o’r ffordd: tlodion y ddaear a ymgydlechant.

24:5 Wele, y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan i’w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore: y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac i’w plant.

24:6 Medant eu hŷd yn y maes; a gwinllan yr annuwiol a gasglant.

24:7 Gwnânt i’r tlawd letya yn noeth heb ddillad, ac heb wisg mewn oerni.

24:8 Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig.

24:9 Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron: cymerant wystl gan y tlawd.

24:10 Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog.

24:11 Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt, ac sydd yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedig.

24:12 Y mae gwŷr yn griddfan o’r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn.

24:13 Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.

24:14 Gyda’r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd a’r anghenog; a’r nos y bydd efe fel lleidr.

24:15 A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos, gan ddywedyd, Ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hug ar ei wyneb.

24:16 Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y rhai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd: nid adwaenant hwy oleuni.