PENNOD 34
34:1 Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,
34:2 Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch.
34:3 Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd.
34:4 Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda.
34:5 Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf; a DUW a ddug ymaith fy marn.
34:6 A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd.
34:7 Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr?
34:8 Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol.
34:9 Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw.
34:10 Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth DDUW fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd.
34:11 Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun.
34:12 Diau hefyd na wna DUW yn annuwiol, ac na wyra yr Hollalluog farn.
34:13 Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd?
34:14 Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef,
34:15 Pob cnawd a gyd-drenga, a dyn a ddychwel i’r pridd.
34:16 Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion.
34:17 A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol?
34:18 A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion?
34:19 Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll.
34:20 Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a’r cadarn a symudir heb waith llaw.
34:21 Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef.
34:22 Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio.
34:23 Canys ni esyd DUW arddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith a Duw.
34:24 Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt.
34:25 Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir.
34:26 Efe a’u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg:
34:27 Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef:
34:28 Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol.
34:29 Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig?
34:30 Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl.
34:31 Ond wrth DDUW, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd;
34:32 Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy.
34:33 Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a’i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis, ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost.
34:34 Gwŷr call, dywedant i mi; a’r gŵr doeth, dywed fi.
34:35 Job a ddywedodd yn annoeth; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb.
34:36 Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir.
34:37 Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw.