Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/561

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

18:49 Am hynny y moliannaf di, O ARGLWYDD, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.

18:50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had ef byth.


SALM 19

19:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Nefoedd sydd yn datgan gogoniant Dduw; a’r ffurfafen sydd yn mynegi gwaith ei ddwylo ef.

19:2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth.

19:3 Nid oes iaith nac ymadrodd, lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt,

19:4 Eu llinyn a aeth trwy yr holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd: i’r haul y gosododd efe babell ynddynt;

19:5 Yr hwn sydd fel gŵr priod yn dyfod allan o’i ystafell: ac a ymlawenha fel cawr i redeg gyrfa.

19:6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt: ac nid ymgudd dim oddi wrth ei wres ef.

19:7 Cyfraith yr ARGLWYDD sydd berffaith, yn troi yr enaid: tystiolaeth yr ARGLWYDD sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.

19:8 Deddfau yr ARGLWYDD sydd uniawn, yn llawenhau y galon: gorchymyn yr ARGLWYDD sydd bur, yn goleuo y llygaid.

19:9 Ofn yr ARGLWYDD sydd lân, yn parhau yn dragwydd; barnau yr ARGLWYDD ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.

19:10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ie, nag aur coeth lawer: melysach hefyd na’r mêl, ac na diferiad diliau mêl.

19:11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir was: o’u cadw y mae gwobr lawer.

19:12 Pwy a ddeall ei gamweddau? glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.

19:13 Atal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus: na arglwyddiaethont arnaf: yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer.

19:14 Bydded ymadroddion fy ngenau, myfyrdod fy nghalon, yn gymeradwy ger dy fron, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m prynwr.


SALM 20

20:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Wrandawed yr ARGLWYDD arnat yn nydd cyfyngder: enw DUW Jacob a’th ddiffynno.

20:2 Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion.

20:3 Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela.

20:4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon, chyfiawned dy holl gyngor.

20:5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein DUW; cyfiawned yr ARGLWYDD dy holl dymuniadau.

20:6 Yr awr hon y gwn y gwared yr ARGLWYDD ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.

20:7 Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr ARGLWYDD ein DUW.

20:8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.

20:9 Achub, ARGLWYDD: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.


SALM 21

21:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. ARGLWYDD, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda!

21:2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela.

21:3 Canys achubaist ei flaen ef a bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.

21:4 Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.

21:5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.

21:6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd.

21:7 Oherwydd bod y Brenhin yn