Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/563

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

22:30 Eu had a’i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i’r ARGLWYDD yn genhedlaeth.

22:31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.


SALM 23

23:1 Salm Dafydd. YR ARGLWYDD yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf.

23:2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel.

23:3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.

23:4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant.

23:5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn.

23:6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr ARGLWYDD yn dragywydd.


SALM 24

24:1 Salm Dafydd. Eiddo yr ARGLWYDD y ddaear, a’i chyfiawnder; y byd, ac a breswylia ynddo.

24:2 Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd, ac a'i sicrhaodd ar yr afonydd.

24:3 Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?

24:4 Y glân ei ddwylo, a'r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.

24:5 Efe a dderbyn fendith gan yr ARGLWYDD, a chyfiawnder gan DDUW ei iachawdwriaeth.

24:6 Dyma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela.

24:7 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

24:8 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr ARGLWYDD nerthol a chadarn, yr ARGLWYDD cadarn mewn rhyfel.

24:9 O byrth, dyrchefwch eich pennau; a ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.

24:10 Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? ARGLWYDD y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.


SALM 25

25:1 Salm Dafydd. Atat ti, O ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid.

25:2 O fy NUW, ynot ti yr ymddiriedais; na'm gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf

25:3 Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos.

25:4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy lwybrau.

25:5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd

25:6 Cofia, ARGLWYDD, dy dosturiaethau a'th drugareddau: canys erioed y maent hwy.

25:7 Na chofia bechodau fy ieuenctid na'm camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, ARGLWYDD.

25:8 Da ac uniawn yw yr ARGLWYDD: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd.

25:9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig.

25:10 Holl lwybrau yr ARGLWYDD ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef.

25:11 Er mwyn dy enw, ARGLWYDD, maddau fy anwiredd: canys mawr yw.

25:12 Pa ŵr yw efe sydd yn ofni’r ARGLWYDD? efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso.

25:13 Ei enaid ef a erys mewn daioni: a’i had a etifedda y ddaear.

25:14 Dirgelwch yr ARGLWYDD sydd gyda’r rhai a’i hofnant ef: a’i gyfamod hefyd, i’w cyfarwyddo hwynt.

25:15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr ARGLWYDD: canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd.

25:16 Tro ataf, a thrugarha wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf.

25:17 Gofidiau fy nghalon a hel