28:1 Salm Dafydd. Arnat ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll.
28:2 Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf arnat, pan ddyrchafwyf fy nwylo tuag at dy gafell sanctaidd.
28:3 Na thyn fi gyda’r annuwiolion, a chyda gweithredwyr anwiredd; y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymdogion, a drwg yn eu calon.
28:4 Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmygion: dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo; tâl iddynt eu haeddedigaethau.
28:5 Am nad ystyriant weithredoedd yr ARGLWYDD, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adeilada hwynt.
28:6 Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD: canys, clybu lef fy ngweddïau.
28:7 Yr ARGLWYDD yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynorthwywyd: oherwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.
28:8 Yr ARGLWYDD sydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iachawdwriaeth ei Eneiniog yw efe.
28:9 Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
SALM 29
29:1 Salm Dafydd. Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi feibion cedyrn, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
29:2 Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: addolwch yr ARGLWYDD ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.
29:3 Llef yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd: DUW y gogoniant a darana; yr ARGLWYDD sydd ar y dyfroedd mawrion.
29:4 Llef yr ARGLWYDD sydd mewn grym: llef yr ARGTWYDD sydd mewn prydferthwch.
29:55 Llef yr ARGLWYDD sydd yn dryllio y cedrwydd; ie, dryllia yr ARGLWYDD gedrwydd Libanus.
29:6 Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.
29:7 Llef yr ARGLWYDD a wasgara y fflamau tân.
29:8 Llef yr ARGLWYDD a wna i’r anialwch grynu: yr ARGLWYDD a wna i anialwch Cades grynu.
29:9 Llef yr ARGLWYDD a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef.
29:10 Yr ARGLWYDD sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr ARGLWYDD eistedd yn Frenin yn dragywydd.
29:11 Yr ARGLWYDD a ddyry nerth i’w bobl: yr ARGLWYDD a fendithia ei bobl â thangnefedd.
SALM 30
30:1 Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd. Mawrygaf di, O ARGLWYDD: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid.
30:2 ARGLWYDD fy NUW, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist.
30:3 ARGLWYDD, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll.
30:4 Cenwch i’r ARGLWYDD, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
30:5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd.
30:6 Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd.
30:7 O’th daioni, ARGLWYDD; y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus.
30:8 Arnat ti, ARGLWYDD, y llefais, ac â’r ARGLWYDD yr ymbiliais.
30:9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd?
30:10 Clyw, ARGLWYDD, a thrugarha wrthyf: ARGLWYDD, bydd gynorthwywr i mi.
30:11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd;
30:12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O ARGLWYDD fy NUW, yn dragwyddol y’th foliannaf.
SALM 31