Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/567

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat.

32:10 Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, trugaredd a’i cylchyna ef.

32:11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr ARGLWYDD: a’r rhai uniawn galon oll, cenwch yn llafar.


SALM 33

33:1 Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, yn yr ARGLWYDD: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl.

33:2 Molwch yr ARGLWYDD â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant.

33:3 Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus

33:4 Canys uniawn yw gair yr ARGLWYDD; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn a ffyddlondeb.

33:5 Efe a gâr gyfiawnder a barn, o drugaredd yr ARGLWYDD y mae y ddaear yn gyflawn.

33:6 Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef.

33:7 Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau.

33:8 Ofned yr holl ddaear yr ARGLWYDD: holl drigolion y byd arswydant ef.

33:9 Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd.

33:10 Yr ARGLWYDD sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd, y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd.

33:11 Cyngor yr ARGLWYDD a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.

33:12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.

33:13 Yr ARGLWYDD sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.

33:14 O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear.

33:15 Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.

33:16 Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.

33:17 Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.

33:18 Wele, y mae llygad yr ARGLWYDD ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef;

33:19 I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn.

33:20 Ein henaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD: efe yw ein porth a’n tarian.

33:21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.

33:22 Bydded dy drugaredd, ARGLWYDD, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.


SALM 34

34:2 Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd. Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.

34:2 Yn yr ARGLWYDD y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant.

34:3 Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi; a chyd-ddyrchafwn ei enw ef.

34:4 Ceisiais yr ARGLWYDD, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn.

34:5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd.

34:6 Y tlawd hwn a lefodd, a’r ARGLWYDD a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau.

34:7 Angel yr ARGLWYDD a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt.

34:8 Profwch, a gwelwch mor dda yw yr ARGLWYDD: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.

34:9 Ofnwch Yr ARGLWYDD, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef.

34:10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr ARGLWYDD, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.

34:11 Deuwch, blant, gwrandewch