Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/569

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

35:25 Na ddywedant yn eu calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef.

35:26 Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn.

35:27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr ARGLWYDD, yr hwn a gâr lwyddiant ei was.

35:28 Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a’th foliant ar hyd y dydd.


SALM 36

36:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd gwas yr ARGLWYDD. Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn DUW o flaen ei lygaid ef.

36:2 Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas.

36:3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.

36:4 Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a'i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni.

36:5 Dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.

36:6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, ARGLWYDD.

36:7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O DDUW! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd.

36:8 Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.

36:9 Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.

36:10 Estyn dy drugaredd i'r rhai a'th adwaenant, a’th gyfiawnder i'r rhai uniawn o galon.

36:11 Na ddeued troed balchder i'm herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.

36:12 Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.


SALM 37

37:1 Salm Dafydd. Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.

37:2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant gwyrddlysiau.

37:3 Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.

37:4 Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.

37:5 Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ymddiried ynddo; ac efe a'i dwg i ben.

37:6 Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a'th farn fel hanner dydd.

37:7 Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.

37:8 Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.

37:9 Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y tir.

37:10 Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono.

37:11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.

37:12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.

37:13 Yr ARGLWYDD a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.

37:14 Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.

37:15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir.

37:16 Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.

37:17 Canys breichiau yr annuwiol-