38:14 Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau.
38:15 Oherwydd i mi obeithio ynot, ARGLWYDD; ti, ARGLWYDD fy NUW, a wrandewi.
38:16 Canys dywedais, Gwrando fi rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn.
38:17 Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad.
38:18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod.
38:19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam.
38:20 A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni.
38:21 Na ad fi, O ARGLWYDD: fy NUW, nac ymhell oddi wrthyf.
38:22 Brysia i’m cymorth, O ARGLWYDD fy iachawdwriaeth.
SALM 39
39:1 Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn. Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg.
39:2 Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd.
39:3 Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod.
39:4 ARGLWYDD, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.
39:5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela.
39:6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl.
39:7 Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O ARGLWYDD? fy ngobaith sydd ynot ti.
39:8 Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd.
39:9 Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn.
39:10 Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i.
39:11 Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela.
39:12 Gwrando fy ngweddi, ARGLWYDD, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau.
39:13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.
SALM 40
40:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Disgwyliais yn ddyfal am yr ARGLWYDD; ac efe a ymostyngodd ataf; ac a glybu fy llefain.
40:2 Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad.
40:3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n DUW ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD.
40:4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr ARGLWYDD yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd.
40:5 Lluosog y gwnaethost ti, O ARGLWYDD fy NUW, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.
40:6 Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech-aberth nis gofynnaist.
40:7 Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn yfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf.
40:8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O NUW: a’th gyfraith, sydd o fewn fy ghalon.
40:9 Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, ARGLWYDD a’i gwyddost.
40:10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.