40:11 Tithau, ARGLWYDD, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth.
40:12 Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a’m daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.
40:13 Rhynged bodd i ti, ARGLWYDD, fy ngwaredu: brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.
40:14 Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.
40:15 Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha.
40:16 Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr ARGLWYDD.
40:17 Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus; eto yr ARGLWYDD a feddwl amdanaf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti; fy NUW, na hir drig.
SALM 41
41:1 I’r Pencerdd, Salm Dafydd. Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr ARGLWYDD a’i gwared ef yn amser adfyd.
41:2 Yr ARGLWYDD a’i ceidw, ac a’i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion.
41:3 Yr ARGLWYDD a’i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
41:4 Mi a ddywedais, ARGLWYDD, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn.
41:5 Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
41:6 Ac os daw i’m hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a’i traetha.
41:7 Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi.
41:8 Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.
41:9 Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.
41:10 Eithr ti, ARGLWYDD, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.
41:11 Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn.
41:12 Ond amdanaf fi, yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli, ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd.
41:13 Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW; Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen.
SALM 42
42:1 I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora. Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O DDUW.
42:2 Sychedig yw fy enaid am DDUW, am y DUW byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron DUW?
42:3 Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy DDUW?
42:4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ DDUW, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl.
42:5 Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn NUW: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd.
42:6 Fy NUW, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar.
42:7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi.
42:8 Eto yr ARGLWYDD a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar DDUW fy einioes.
42:9 Dywedaf wrth DDUW fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
42:10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn