SALM 62
62:1 I'r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Dafydd. Wrth DDUW yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth.
62:2 Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth, a'm hamddiffyn; ni'm mawr ysgogir.
62:3 Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd.
62:4 Ymgyngorasant yn unig i'w fwrw ef i lawr o'i fawredd; hoffasant gelwydd: â'u geneuau y bendithiant, ond o'u mewn y melltithiant. Sela.
62:5 O fy enaid, disgwyl wrth DDUW yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
62:6 Efe yn unig yw fy nghraig, a'm hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni'm hysgogir.
62:7 Yn NUW y mae fy iachawdwriaeth a'm gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn NUW.
62:8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: DUW sydd noddfa i ni. Sela.
62:9 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi.
62:10 Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno.
62:11 Unwaith y dywedodd DUW, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo DUW yw cadernid.
62:12 Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O ARGLWYDD: canys ti a deli i bob yn ôl ei weithred.
SALM 63
63:1 Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda. Ti, O DDUW, yw fy NUW i; yn fore y'th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr;
63:2 I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y'th welais yn y cysegr.
63:3 Canys gwell yw dy drugaredd di na'r bywyd: fy ngwefusau a'th foliannant.
63:4 Fel hyn y'th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.
63:5 Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar
63:6 Pan y'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.
63:7 Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.
63:8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a'm cynnal.
63:9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.
63:10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.
63:11 Ond y Brenin a lawenycha yn NUW: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
SALM 64
64:1 I'r Pencerdd, Salm Dafydd. Clyw fy llef, O DDUW, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.
64:2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:
64:3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:
64:4 I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.
64:5 Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a'u gwêl hwynt?
64:6 Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn.
64:7 Eithr DUW a'u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt.
64:8 Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a'u gwelo a gilia.
64:9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith DUW: canys doeth ystyriant ei waith ef.