Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/588

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

74:23 Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.


SALM 75

75:1 I’r Pencerdd, Al-teschith, Salm neu Gân Asaff. Clodforwn dydi, O DDUW, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.

75:2 Pan dderbyniaf y gynulleidfa, mi a farnaf yn gyfiawn.

75:3 Ymddatadodd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.

75:4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:

75:5 Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.

75:6 Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth.

75:7 Ond DUW sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.

75:8 Oblegid y mae ffiol yn llaw yr ARGLWYDD, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.

75:9 Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i DDUW Jacob.

75:10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.


SALM 76

76:1 I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff. Hynod yw DUW yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel.

76:2 Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion.

76:3 Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela.

76:4 Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail.

76:5 Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.

76:6 Gan dy gerydd di, O DDUW Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu.

76:7 Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter?

76:8 O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,

76:9 Pan gyfododd DUW i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela.

76:10 Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi.

76:11 Addunedwch, a thelwch i’r ARGLWYDD eich DUW: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy.

76:12 Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.


SALM 77

77:1 I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff. A’m llef y gwaeddais ar DDUW, â’m nef ar DDUW; ac efe a’m gwrandawodd.

77:2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.

77:3 Cofiais DDUW, ac a’m cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.

77:4 Deliaist fy llygaid yn neffro: synodd arnaf, fel na allaf lefaru.

77:5 Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.

77:6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.

77:7 Ai yn dragywydd y bwrw yr ARGLWYDD heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?

77:8 A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?

77:9 A anghofiodd DUW drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.

77:10 A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.

77:11 Cofiaf weithredoedd yr ARGLWYDD; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.

77:12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.

77:13 Dy ffordd, O DDUW, sydd yn