llys uchel, fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
78:70 Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a’i cymerth o gorlannau y defaid:
78:71 Oddi ar ôl y defaid cyfebron y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
78:72 Yntau a’u porthodd hwynt yn ôl perffeithrwydd ei galon; ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylo.
SALM 79
79:1 Salm Asaff. Y cenhedloedd, O DDUW, y ddaethant i’th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant Jerwsalem yn garneddau.
79:2 Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear.
79:3 Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a’u claddai.
79:4 Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch.
79:5 Pa hyd, ARGLWYDD? a ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân?
79:6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw.
79:7 Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd.
79:8 Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd.
79:9 Cynorthwya ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ei pechodau, er mwyn dy enw.
79:10 Paham y dywed y cenhedloedd, Pa le y mae eu DUW hwynt? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni, wrth ddial gwaed dy weision yr hwn dywalltwyd.
79:11 Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron: yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth.
79:12 A thâl i’n cymdogion ar y seithfed i’w mynwes, eu cabledd trwy yr hon y’th gablasant di, O Arglwydd.
79:13 A ninnau dy bobl a defaid dy borfa, a’th foliannwn di yn dragywydd: datganwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.
SALM 80
80:1 I’r Pencerdd ar Sosannim Edith, Salm Asaff. Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid.
80:2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni.
80:3 Dychwel ni, O DDUW, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
80:4 O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl?
80:5 Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.
80:6 Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun.
80:7 O DDUW y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
80:8 Mudaist winwydden o’r Affft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.
80:9 Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir.
80:10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol.
80:11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon.
80:12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi?
80:13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr.
80:14 O DDUW y lluoedd, dychwel, atolwg, edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon;
80:15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.
80:16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.
80:17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i i ti dy hun.