80:18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw.
80:19 O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
SALM 81
81:1 I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Asaff. Cenwch yn llafar i DDUW ein cadernid: cenwch yn llawen i DDUW Jacob.
81:2 Cymerwch Salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl.
81:3 Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl.
81:4 Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i DDUW Jacob.
81:5 Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn.
81:6 Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â’r crochanau.
81:7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela.
81:8 Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf.
81:9 Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.
81:10 Myfi yr ARGLWYDD dy DDUW yw yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a’i llanwaf.
81:11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni’m mynnai.
81:12 Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.
81:13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!
81:14 Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.
81:15 Caseion yr ARGLWYDD a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a’u hamser hwythau fuasai yn dragywydd.
81:16 Bwydasai hwynt hefyd â braster gwenith: ac â mêl o’r graig y’th ddiwallaswn.
SALM 82
82:1 Salm Asaff. DUW sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe.
82:2 Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela.
82:3 Bernwch y tlawd a’r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus.
82:4 Gwaredwch y tlawd a’r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.
82:5 Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle.
82:6 Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.
82:7 Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch.
82:8 Cyfod, O Dduw, barna y ddaear canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.
SALM 83
83:1 Cân neu Salm Asaff. O DDUW na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O DDUW.
83:2 Canys wele, dy elynion, sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau.
83:3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di.
83:4 Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
83:5 Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i’th erbyn;
83:6 Pebyll Edam, a’r Ismaeliaid; y Moabiaid, a’r Hagariaid;
83:7 Gebal, ac Ammon, ac Amalec; y Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus.
83:8 Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela.
83:9 Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison: