91:1 Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog.
91:2 Dywedaf am yr ARGLWYDD, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy NUW; ynddo yr ymddiriedaf.
91:3 Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.
91:4 A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.
91:5 Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd:
91:6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistria a ddinistrio ganol dydd.
91:7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw, ond ni ddaw yn agos atat ti.
91:8 Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.
91:9 Am i ti wneuthur yr ARGLWYDD fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;
91:10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell.
91:11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.
91:12 Ar eu dwylo, y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg.
91:13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri.
91:14 Am iddo toddi ei serch arnaf, a hynny gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw.
91:15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.
91:16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
SALM 92
92:1 Salm neu Gân ar y dydd Saboth. A yw moliannu yr ARGLWYDD, a chanu mawl i’th enw di, Y Goruchaf:
92:2 A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau;
92:3 Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol.
92:4 Canys llawenychaist fi, O ARGLWYDD â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo gorfoleddaf.
92:5 Mor fawredig, O ARGLWYDD, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau.
92:6 Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn.
92:7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd.
92:8 Tithau, ARGLWYDD, wyt ddyrchafedig yn dragywydd.
92:9 Canys wele, dy elynion, O ARGLWYDD, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.
92:10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir.
92:11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn.
92:12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus.
92:13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD a flodeuant yng nghynteddoedd ein DUW.
92:14 Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant:
92:15 I fynegi mai uniawn yw yr ARGLWYDD fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.
SALM 93
93:1 Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr ARGLWYDD nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.
93:2 Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb.
93:3 Y llifeiriaint, O ARGLWYDD, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau.
93:4 Yr ARGLWYDD yn yr uchelder sydd gadernach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr.
93:5 Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O ARGLWYDD, byth.
SALM 94
94:1 O ARGLWYDD DDUW y dial, O DDUW y dial, ymddisgleiria.