94:2 Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion.
94:3 Pa hyd, ARGLWYDD, y caiff yr annuwiolion, pa hyd, y caiff yr annuwiol orfoleddu?
94:4 Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?
94:5 Dy bobl, ARGLWYDD, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant.
94:6 Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant.
94:7 Dywedant hefyd, Ni wêl yr ARGLWYDD; ac nid ystyria DUW Jacob hyn.
94:8 Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?
94:9 Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
94:10 Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?
94:11 Gŵyr yr ARGLWYDD feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.
94:12 Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O ARGLWYDD, ac a ddysgi yn dy gyfraith:
94:13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol.
94:14 Canys ni ad yr ARGLWYDD ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.
94:15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.
94:16 Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?
94:17 Oni buasai yr ARGLWYDD yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.
94:18 Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed dy drugaredd di, O ARGLWYDD, a’m cynhaliodd.
94:19 Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.
94:20 A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
94:21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.
94:22 Eithr yr ARGLWYDD sydd yn amddiffynfa i mi; a’m DUW yw craig fy nodded.
94:23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr ARGLWYDD ein DUW a’u tyr hwynt ymaith.
SALM 95
95:1 Deuwch, canwn i’r ARGLWYDD: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
95:2 Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â Salmau.
95:3 Canys yr ARGLWYDD sydd DDUW mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
95:4 Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.
95:5 Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir.
95:6 Deuwch, addolwn, ac yngrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD ein Gwneuthurwr.
95:7 Canys efe yw ein DUW ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,
95:8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:
95:9 Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.
95:10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd:
95:11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.
SALM 96
96:1 Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd; cenwch, i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
96:2 Cenwch i’r ARGLWYDD, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
96:3 Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
96:4 Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
96:5 Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
96:6 Gogoniant a harddwch sydd o’i