99:6 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw; galwasant ar yr ARGLWYDD, ac efe a’u gwrandawodd hwynt.
99:7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt.
99:8 Gwrandewaist arnynt, O ARGLWYDD ein Duw: DUW oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion.
99:9 Dyrchefwch yr ARGLWYDD ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr ARGLWYDD ein Duw.
SALM 100
100:1 Salm o foliant. Cenwch yn llafar i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.
100:2 Gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân.
100:3 Gwybyddwch mai yr ARGLWYDD sydd DDUW: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
100:4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw.
100:5 Canys da yw yr ARGLWYDD: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
SALM 101
101:1 Salm Dafydd. Canaf am drugaredd a barn: i ti, O ARGLWYDD, y canaf.
101:2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ.
101:3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi.
101:4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus.
101:5 Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef.
101:6 Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i.
101:7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd.
101:8 Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr ARGLWYDD.
SALM 102
102:1 Gweddi'r cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr ARGLWYDD. ARGLWYDD, clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat.
102:2 Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi.
102:3 Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a'm hesgyrn a boethasant fel aelwyd.
102:4 Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fy mara.
102:5 Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd.
102:6 Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch.
102:7 Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ.
102:8 Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.
102:9 Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain;
102:10 Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr.
102:11 Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais.
102:12 Tithau, ARGLWYDD, a barhei ya dragwyddol, a’th gofradwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
102:13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth.
102:14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi.
102:15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr ARGLWYDD, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogonoiant.
102:16 Pan adeilado yr ARGLWYDD Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant.