119:28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.
119:29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
119:30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen.
119:31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda.
119:32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon
119:33 HE. Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.
119:34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon.
119:35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.
119:36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra.
119:37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.
119:38 Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di.
119:39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.
119:40 Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.
119:41 FAU. Deued i mi dy drugaredd, ARGLWYDD, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air.
119:42 Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.
119:43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.
119:44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.
119:45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.
119:46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.
119:47 Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.
119:48 A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.
119:49 SAIN. Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
119:50 Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i.
119:51 Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
119:52 Cofiais, O ARGLWYDD, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.
119:53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
119:54 Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod.
119:55 Cofiais dy enw, ARGLWYDD, y nos; a chedwais dy gyfraith.
119:56 Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.
119:57 CHETH. O ARGLWYDD, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.
119:58 Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.
119:59 Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.
119:60 Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion.
119:61 Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.
119:62 Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:63 Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion.
119:64 Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy ddeddfau.
119:65 TETH. Gwnaethost yn dda i’th was, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
119:66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.
119:67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
119:68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.
119:69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon.
119:70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
119:71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.
119:72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.
119:73 IOD. Dy ddwylo a’m gwnaethant,