ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.
119:74 Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.
119:75 Gwn, ARGLWYDD, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist.
119:76 Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr.
119:77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.
119:78 Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos, ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.;
119:79 Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.
119:80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.
119:81 CAFF. Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.
119:82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni?
119:83 Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.
119:84 Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant?
119:85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.
119:86 Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi.
119:87 Braidd na’m difasant ar y daear; minnau ni adewais dy orchmynion.
119:88 Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.
119:89 LAMED. Yn dragywydd, O ARGLWYDD, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.
119:90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.
119:91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.
119:92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.
119:93 Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist.
119:94 Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais.
119:95 Y rhai annunwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.
119:96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.
119:97 MEM. Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.
119:98 A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi.
119:99 Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
119:100 Deellais yn well na’r henuriaid, fy mod yn cadw dy orchmynion di.
119:101 Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.
119:102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist.
119:103 Mor felys yw dy eiriau i’m genau, melysach na mêl i’m safn.
119:104 Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.
119:105 NUN. Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr.
119:106 Tyngais, a chyfiawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
119:107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O ARGLWYDD, yn ôl dy air.
119:108 Atolwg, ARGLWYDD, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.
119:109 Y mae fy enaid yn fy law yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
119:110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.
119:111 Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth - oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
119:112 Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.
119:113 SAMECH. Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais.
119:114 Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.
119:115 Ciliwch oddi wrthyf, rai dryg-