Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/616

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

gawell saethau â hwynt: nis gwaradwyddir hwy, pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.


SALM 128

128:1 Gwyn ei fyd pob un sydd yn ofni yr ARGLWYDD; yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.

128:2 Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd, a da fydd i ti.

128:3 Dy wraig fydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion olewydd o amgylch dy ford.

128:4 Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr ARGLWYDD.

128:5 Yr ARGLWYDD a’th fendithia allan o Seion; a thi a gei weled daioni Jerwsalem holl ddyddiau dy einioes.

128:6 A thi a gei weled plant dy blant, a thangnefedd ar Israel.


SALM 129

129:1 Caniad y graddau. Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:

129:2 Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant.

129:3 Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.

129:4 Yr ARGLWYDD sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.

129:5 Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion.

129:6 Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith.

129:7 A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.

129:8 Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr ARGLWYDD arnoch; bendithiwn chwi yn enw yr ARGLWYDD.


SALM 130

130:1 Caniad y graddau. O’r dyfnder y llefais arnat, O ARGLWYDD.

130:2 ARGLWYDD, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.

130:3 Os creffi ar anwireddau, ARGLWYDD, O ARGLWYDD, pwy a saif?

130:4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner.

130:5 Disgwyliaf am yr ARGLWYDD, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.

130:6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore;

130:7 Disgwylied Israel am yr ARGLWYDD; oherwydd y mae trugaredd gyda’r ARGLWYDD, ac aml ymwared gydag ef.

130:8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.


SALM 131

131:1 Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd. O ARGLWYDD, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi.

131:2 Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu.

131:3 Disgwylied Israel wrth yr ARGLWYDD, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.


SALM 132

132:1 Caniad y graddau. O ARGLWYDD, cofia Dafydd, a'i holl flinder;

132:2 Y modd y tyngodd efe wrth yr ARGLWYDD, ac yr addunodd i rymus DDUW Jacob:

132:3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, Ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;

132:4 Ni roddaf gwsg i'm llygaid, na hun i'm hamrantau,

132:5 Hyd oni chaffwyf le i’r ARGLWYDD preswylfod i rymus DDUW Jacob.

132:6 Wele, clywsom amdani yn Effrata; cawsom hi ym meysydd y coed.

132:7 Awn i'w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef.

132:8 Cyfod, ARGLWYDD, i'th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid.

132:9 Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint.

132:10 Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog.

132:11 Tyngodd yr ARGLWYDD mewn