y’nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharaoh.
19 Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd?
20 Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen wr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef.
21 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered attaf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno.
22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llangc ni ddichon ymadael â’i dad: oblegid os ymedy efe â’i dad, marw fydd ei dad.
23 Tithau a ddywedaist wrth dy weision. Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyd â chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.
24 Bu hefyd, wedi ein myned ni i fynu at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd.
25 A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth.
26 Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gwr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyd â ni.
27 A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi;
28 Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddïau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn:
29 Os cymmerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd.
30 Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llangc gyd â ni; (gan fod ei hoedl ef y’nglŷn wrth ei hoedl yntau;)
31 Yna pan welo efe na ddaeth y llangc, marw fydd efe; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd.
32 Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llangc i’m tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef attat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth.
33 Gan hynny weithian, attolwg, arhosed dy was dros y llangc, yn was i’m harglwydd; ac aed y llangc i fynu gyd â’i frodyr:
34 Oblegid pa fodd yr âf i fynu at fy nhad, a’r llangc heb fod gyd â mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.
Pennod XLV.
1 Joseph yn ei hysbysu ei hun i’w frodyr: 5 yn eu cysuro hwynt â rhagluniaeth Duw: 9 yn danfon am ei dad. 16 Pharaoh yn sicrhâu y peth. 21 Joseph yn gosod allan ei frodyr i’r daith, ac yn eu hannog hwynt i fod yn gyttûn. 25 Jacob yn ymlawenychu wrth y newyddion.
Yna Joseph ni allodd ymattal ger bron y rhai oll oedd yn sefyll gyd âg ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gyd âg ef, pan ymgydnabu Joseph a’i frodyr.
2 Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Aiphtiaid, a chlybu tŷ Pharaoh.
3 A Joseph a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseph: ai byw fy nhad etto? A’i frodyr ni fedrent atteb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef.
4 Joseph hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, attolwg, attaf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseph eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aipht.
5 Weithian gan hynny na thristêwch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu o honoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi.
6 Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd etto bùm mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi.
7 A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.
8 Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharaoh, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aipht.
9 Brysiwch, ac ewch i fynu at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseph: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aipht: tyred i waered attaf; nac oeda:
10 A chei drigo y’ngwlad Gosen, a bod yn agos attaf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt: