145:12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.
145:13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
145:14 Yr ARGLWYDD sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
145:15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;
145:16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da.
145:17 Cyfiawn yw yr ARGLWYDD yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
145:18 Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
145:19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt.
145:20 Yr ARGLWYDD sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.
145:21 Traetha fy ngenau foliant yr ARGLWYDD: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
SALM 146
146:1 Molwch yr ARGLWYDD. Fy enaid, mola di yr ARGLWYDD.
146:2 Molaf yr ARGLWYDD yn fy myw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.
146:3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.
146:4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.
146:5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae DUW Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr ARGLWYDD ei DDUW:
146:6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd:
146:7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr ARGLWYDD sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.
146:8 Yr ARGLWYDD sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr ARGLWYDD sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr ARGLWYDD sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.
146:9 Yr ARGLWYDD sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.
146:10 Yr ARGLWYDD a deyrnasa byth, sef dy DDUW di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr ARGLWYDD.
SALM 147
147:1 Molwch yr ARGLWYDD: canys da yw canu i’n DUW ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl.
147:2 Yr ARGLWYDD sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.
147:3 Efe sydd yn iachau y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.
147:4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.
147:5 Mawr yw ein HARGLWYDD, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall.
147:6 Yr ARGLWYDD sydd yn dyrchafu rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.
147:7 Cydgenwch i’r ARGLWYDD mewn diolchgarwch: cenwch i’n DUW â’r delyn;
147:8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.
147:9 Efe, sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthant, ac i gywion y gigfran, pan lefant.
147:10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr.
147:11 Yr ARGLWYDD sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.
147:12 Jerwsalem, mola di yr ARGLWYDD: Seion, molianna dy DDUW.
147:13 Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn.
147:14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith.
147:15 Yr hwn sydd yn anfon ei or-