Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/660

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

aberthau i mi? medd yr ARGLWYDD: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.

1:12 Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau?

1:13 Na chwanegwch. ddwyn offrwmt ofer: arogl-darth sydd ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newyddloerau na’r Sabothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel ŵyl gyfarfod.

1:14 Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn.

1:15 A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoi-h lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.

1:16 Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg;

1:17 Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig, gwnewch farn i’r amddifad, dadleuwch dros y weddw.

1:18 Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr ARGLWYDD: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.

1:19 Os byddwch ewyllysgar ac ufudd, daioni y tir a fwytewch.

1:20 Ond os gwrthodwch, ac os anufuddhewch, a chleddyf y’ch ysir: canys genau yr ARGLWYDD a’i llefarodd.

1:21 Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid.

1:22 Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr:

1:23 Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion a lladron; pob un yn cam rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt.

1:24 Am hynny medd yr Arglwydd, AR¬GLWYDD y lluoedd, cadarn DDUW Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.

1:25 A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam.

1:26 Adferaf hefyd dy farnwyr, fel cynt, a’th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawn¬der, yn Dref ffyddlon.

1:27 Seion a waredir â barn, a’r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder.

1:28 A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd; a’r rhai a ymadawant â’r ARGLWYDD, a ddifethir.

1:29 Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch.

1:30 Canys byddwch fel derwen â’i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi.

1:31 A’r cadarn fydd fel carth, a’i weithydd fel gwreichionen: a hwy a losgant ill dau ynghyd, ac ni bydd a’u diffoddo.

PENNOD 2

2:1 Y gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem.

2:2 A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr ARGLWYDD wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn.ddyrchafedig goruwch y bryniau, a’r holl genhedloedd a ddylifant ato.

2:3 A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i dŷ Duw Jacob, ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

2:4 Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.

2:5 Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr ARGLWYDD.

2:6 Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o’r dwyrain, a’u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac