Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/662

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

tlodion? medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd.

3:16 A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwamal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio a’u traed:

3:17 Am hynny y clafra yr ARGLWYDD gorunau merched Seion; a’r ARGLWYDD a ddinoetha eu gwarthle hwynt.

3:18 Yn y dydd hwnnw y tyn yr AR¬GLWYDD ymaith addurn yr esgidiau, y rhwydwaith hefyd, a’r lloerawg wisgoedd,

3:19 Y cadwynau, a’r breichledau, a’r moledau,

3:20 Y penguwch, ac .addurn y coesau, a’r ysnodennau, a’r dwyfronegau, a’r clustlysau,


3:21 Y modrwyau, ac addurn y trwyn,

3:22 Y gwisgoedd symudliw, a’r mentyll, a’r misyrnau, a’r crychnodwyddau,

3:23 Y drychau hefyd, a’r lliain meinwych, a’r cocyllau, a’r gynau.

3:24 A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronneg, gwregys o sachliain; a llosgfa yn lle prydferthwch.


3:25 Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf, a’th gadernid trwy ryfel.

3:26 A’i phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear.

PENNOD 4

4:1 Ac yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr, gan ddywedyd, Ein bara ein hun a fwytawn, a’n dillad ein hun a wisgwn: yn unig galwer dy enw di arnom ni; cymer ymaith ein gwarth ni.

4:2 Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr ARGLWYDD yn brydferthwch ac yn ogoniant; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel.

4:3 A bydd, am yr hwn a adewir yn Seion, ac a weddillir yn Jerwsalem, y dywedir wrtho, O sanct; sef pob un a’r a ysgrifennwyd ymhlith y rhai byw yn Jerwsalem:

4:4 Pan ddarffo i’r ARGLWYDD olchi budreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o’i chanol, mewn ysbryd barn, ac mewn ysbryd llosgfa.

4:5 A’r ARGLWYDD a grea ar bob trigfa o fynydd Seion, ac ar ei gymanfaoedd, gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn.

4:6 A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag glaw.

PENNOD 5

5:1 Canaf yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon:

5:2 Ac efe a’i cloddiodd hi, ac a’i digaregodd, ac a’i plannodd o’r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei’chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion.

5:3 Ac yr awr hon, preswylwyr Jerw¬salem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a’m gwinllan.

5:4 Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion?

5:5 Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi, torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa;

5:6 A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni.

5:7 Diau, gwinllan ARGLWYDD y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais, am gyfiawnder, ac wele lef.

5:8 Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷat dŷ, ac yn cydio maes wrth faes, hyd oni byddo eisiau lle, ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir.

5:9 Lle y clywais y dywedodd ARGLWYDD y lluoedd, Yn ddiau bydd tai lawer, mawrion a theg, yn anghyfannedd heb drigiannydd.

5:10 Canys deg cyfair o winllan a