Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/678

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ymadawsant, m chyfodant; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt.

º15 Ychwanegaist ar y genedl, O AR¬GLWYDD, ychwanegaist ar y genedl; ti a ogoneddwyd; ti a’i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear.

º16 Mewn adfyd, ARGLWYDD, yr ymwelsant a thi; tywalhasant weddi pa oedd dy gosbedigaeth arnynt.

º17 Fel y gofidia ac y gwaedda gwraig feichiog dan ei gwewyr, pan fyddo agos, i esgor; felly yr oeddem o’th flaen di, AR¬GLWYDD.

º18 Beichiogasom, gofidiasom, oeddem. fel ped esgorem ar wynt; ni wnaethom ymwared ar y ddaear, a phreswylwyr y byd ni syrthiasant.

º19 Dy feirw a fyddant byw, fel fy nghorff i yr atgyfodant. Deffrowch a chenwch, breswylwyr y llwch xxx: canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau, a’r ddaear a fwrw y mcirw allan.

º20 Tyred, fy mhobl, dos i’th ystafelloedd, a chac dy ddrysau arnat: llecha megis ennyd bach, hyd onid elo y llid heibio.

º21 Canys wele yr ARGLWYDD yn dyfod allan o’i fangre, i ymweled ag anwiredd prcswylwyr y ddaear: a’r ddaear a ddatguddia ei gwaed, ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion.


PENNOD 27

º1 YDYDD hwnnw yr ymwêl yr AR¬GLWYDD â’i gleddyf caled, mawr, a chadarn, a lefiathan y sarff hirbralf, ie, & lefiathan y sarff dorchog: ac efe a ladd y ddraig sydd yn y m&r.

º2 Yn y dydd hwnnw cenwch iddi, Gwinllan y gwin coch.

º3 Myfi yr ARGLWYDD a’i ceidw; ar bob moment y dyfrhaf hi: cadwaf hi nos a dydd, rhag i neb ei drygu.

º4 Nid oes lidiowgrwydd ynof: pwy a osodai fieri a drain yn fy erbyn mewn rhyfel? myfi a awn trwyddynt, mi a’u llosgwn hwynt ynghyd.,

º5 Neu ymafled yn fy. nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe a Wfla ileddwch â mi.

º6 Efe awnai hiliogaeth Jacob wreiddio; Israel a flodeua, ac a flaendardda; a hwy a lanwant wyneb y byd a chnwd.

º7 A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a’i trawsai ef? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef?

º8 Wrth fesur, pan el allan, yr ymddadlau ag ef: y mae yn atal ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt.

º9 Am hynny trwy hyn y glanheir an¬wiredd Jacob; a dyna’r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na’r delwau.

º10 Eto y ddinas gadarn fydd unig, a’r annedd wedi ei adael, a’i wrthod megis yn anialwch: yno y pawr y llo, ac y gorwedd ac y difa ei blagur hi.

º11 Pan wywo ei brig hi, hwy a dorrir: gwragedd a ddaw, ac a’i llosgant hi,, canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny yr hwn a’u gwnaeth ni thosturia wrthynt, a’r hwn a’u lluniodd ni thrugarha wrthynt.

º12 A’r dydd hwnnw y bydd i’r AR¬GLWYDD ddyrnu, o rfrwd yr afon hyd afon yr Aifft: a chwi feibion Israel a gesglir bob yn un ac un.

º13 Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr; yna y daw y rhai ar ddarfod amdanynt yn nhir Asyria, a’r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Ailft, ac a addolant yr ARGLWYDD yn y mynydd sanctaidd yfl Jerwsalena.


PENNOD 28

º1 1 Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwil sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win.

º2 Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr ARGLWYDD, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr a llaw.

º3 Dan draed y sefhrir ootoa balchder:, meddwon Effraim.

º4 Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant, eft’ hwn sydd ar ben y dyffryn bras, fydd blodeuyn diflanedig, megis ffigysen gynnar cyn yr haf, yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni, efe a’i llwnc hi, a hi eto yn ei law.

º5 Yn y dydd hwnnw y bydd