yn fy nhŷ i a welsant: nid oes dim yn fy nhrysorau a’r nas dangosais iddynt.
º5 Yna Eseia a ddywedodd wrth Hesec¬eia, Gwrando air ARGLWYDD y lluoedd.
º6 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim, Biedd yr AR¬GLWYDD.
º7 Cymerant hefyd o th feibion di, y rhai a ddaw ohono!:, sef y rhaa a genhedii, fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon.
º8 Yna y dywedodd Heseceia wrth Eseia, Da yw gair yr ARGLWYDD, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Canys l ydd heddwch a gwirionedd yn fy flyddiau i.
PENNOD 40
º1 YSURWCH, cysurwch fy mhobl, ‘—’ medd eich Duw.
º2 Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr ARGLWYDD yn ddauddyblyg am ei holl bechodau.
º3 Llef un yn llefain yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch lwybr i’n Duw ni yn y diffeithwch.
º4 Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gwŷr a wneir yn union, a’r anwastad yn wastadedd.
º5 A gogoniant yr ARGLWYDD a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd â’i gwel; canys genau yr ARGLWYDD a lefarodd hyn.
º6 Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a’i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes.
º7 Gwywa y gwelltyn, syrth y blod¬euyn; canys ysbryd yr ARGLWYDD a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl.
º8 Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein Duw ni a saif byth.
º9 Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich Duw chwi.
º10 Wele, yr ARGLWYDD DDUW a ddaw yn erbyn y cadarn, a’i fraich a lywodraetha drosto: wele ei wobr gydag if, a’i waith o’i Haen.
º11 Fel bugail y portha fcfe- N braidd;
a’i fraich y casgl ei wyn, ac a’u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid.
º12 , Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd a’i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau, a’r bryniau mewn cloriannau?
º13 Pwy a gyfarwyddodd Ysbryd yr ARGLWYDD, ac yn ŵr o’i gyngor a’i cyfarwyddodd ef?
º14 A phwy yr ymgynghorodd efe, ie, pwy a’i cyfarwyddodd, ac a’i dysgodd yn llwybr barn, ac a ddysgodd iddo wybodaeth, ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth?
º15 Wele, y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y cloriannau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny.
º16 Ac nid digon Libanus i gynnau tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm.
º17 Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd, y cyfrifwyd hwynt ganddo.
º18 I bwy gan hynny y cyffelybwch DDUW? a pha ddelw a osodwch iddo?
º19 Y crefftwr a dawdd gerfddelw, a’r eurych a’i goreura, ac a dawdd gadwyni arian.
º20 Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra; efe a gais ato saer cywraint, i baratoi cerfddelw, yr hon ni syfl.
º21 Oni wybuoch? oni chlywsoch? oni fynegwyd i chwi o’r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear?
º22 Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a’i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a’i lleda fel pabell i drigo ynddi:
º23 Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear.
º24 Ie, ni phlennir hwynt, nis heuir chwaith; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear: ac efe a chwyth