newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwcn, ac afonydd yn y dineithwch.
º20 Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a’m gogoneddant; ana toddi ohonof ddwfr yn yr anialwch,. a-’r afonydd yn y diffeithwch, i roddi dwd I’m pobl, fy newisedig.
º31 Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.
º22 Eithr ni elwaist arnaf, Jacob, ond blinaist arnaf, Israel.
º23 Ni ddygaist i mi filed dy offrymau poeth, ac ni’m hanrhydeddaist a’th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu g offrwrn, ac ni’th flinais ag arogl-darth.
º24 Ni phrynaist i mi galamus ag arian, ac ni’m llenwaist a braster dy ebyrth: eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu &’th bechodau, blinaist fi a’th anwireddau.
º25 Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni ehofiaf dy bechodau.
º26 Dwg ar gof i mi, cydyrnddadleuwa-: adrodd di, fel y’th gyfiawnhaer.
º27 Dy dad cyntaf a bechodd, a’fh athrawon a wnaethant gamwedd i’rtt herbyn.
º28 Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd-beth, ac Israel yn waradwydd.
PENNOD 44
º1 A yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais.
º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd o’r groth, efe a’th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais.
º3 Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf Sy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth:
º4 A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
º5 Hwn a ddywed, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf fi; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna a’i law, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel.
º6 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Brenin Israel, a’i Waredydd, ARGLWYDD y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi.
º7 Pwy hefyd, fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hen bobl? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod, a’r pethau a ddaw.
º8 Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid 6r hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a’m tystion ydych chwi. A oes Duw ond myfi? ie, nid oes Duw: nid adwaen i yr un.
º9 Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymimol lesad: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt.
º10 Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles?
º11 Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hsfyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant.
º12 Y gof a’r efel a weithia yn y glo, ac a’i llunia a morthwylion, ac & nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a’i nerth a balla; nid yfddwfr, ac y mae yn diffygio.
º13 Y saer pren a estyn ei linyn; efe a’i llunia hi wrth linyn coch; efe a’i cymhwys-a hi a bwyeill, ac a’i gweithia wrth gwmpas, ac a’i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ.
º14 Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a’r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a’r glaw a’i maetha.
º15 Yna y bydd i ddyn i gynnau tân: canys efe a gymer ohoni, ac a ymdwyma; ie, efe a’i llysg, ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a’i haddola ef; gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac a ymgryma iddo.
º16 Rhan ohono a lysg efe yn tân; wrth ran ohono y bwyty gig, y rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwyma hefyd, ac a ddywed. Aha, ymdwymais, gwelais dan.