º17 A’r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a’i haddola, ac a weddïa arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt.
º18 Ni wyddant, ac ni ddeallant; canys Duw a gaeodd eu llygaid hwynt rhag’ gweled, a’u calonnau rhag deall.
º19 Ie, ni feddwl neb yn ei galon, ie, nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd, Llosgais ran ohono yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwyteais; ac a wnaf fi y rban arall yn ffieidd-beth? a ymgrymaf i foncyff o bren?
º20 Ymborth ar ludw y mae; calon siomedig a’i gwyrdrodd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, Onid oes celwydd yn fy neheulaw?
º21 Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti; lluniais di, gwas i. mi ydwyt; Israel, ni’th anghofir gennyf.
º22 Dileais dy gamweddau fel cwmwi, a’th bechodau fel niwi: dychwel ataf fi; canys myfi a’th waredais di.
º23 Cenwch, nefoedd: canys yr ARGLWYDD a wnaeth hyn: bloeddiwch, gwaelodion y ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr ARGLWYDD Jacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe.
º24 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD dy Waredydd, a’r hwn a’th luniodd o’r groth, Myfi yw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun:
º25 Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog, ac yn ynfydu dewiniaid; yn troi y doethion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd:
º26 Yr hwn a gyflawna air ei was, ac a gwblha gyngor ei genhadon; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem, Ti a breswylir; ac wrth ddinasoedd Jwda, Chwi a adeiledir, a chyfodaf ei hadwyau:
º27 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfnder, Bydd sych; a mi a sychaf dy afonydd:
º28 Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewyllys: gan ddywedyd wnft Jerwsalem, Ti a adeiledir; ac wrth y deral, Ti a sylfaenir.
PENNOD 45
º1 FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw,,i i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir:
º2 Mi a af o’th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a’r barrau heyrn a ddrylliaf:
º3 Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr ARGLWYDD, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel.
º4 Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y’th elwais erbyn dy enw: mi a’th gyfenwais, er na’m hadwaenit.
º5 Myfi ydwyf yr ARGLWYDD, ac nid; arall, nid oes Duw ond myfi; gwregysais di, er na’m hadwaenit:
º6 Fel y gwvpont o godiad haul, act o’r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr ARGLWYDD, ac nid arall:;’
º7 Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur hyn oll. ‘
º8 Defnynnwch, nefoedd, oddi uchod, a thywallted yr wybrennau gyfiawnder; ymagored y ddaear, ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder, cyd-darddant: myfi yr ARGLWYDD a’u creais.
º9 Gwae a ymrysono â’i Luniwr. Ymrysoned priddell a phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Both a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo?
º10 Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedii? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist?
º11 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Sanct Israel, a’i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo.
º12 Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn ami: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd.
º13 Myfi a’i cyfodais ef mewn cyf-