PENNOD 47
º1 DISGYN, ac eistedd ŷd y llwch, ti forwynferch Babilon, eistedd ar lawr: nid oes orseddfainc, ti ferch y Caldeaid; canys ni’th alwant mwy yn dyner ac yn foethus.
º2 Cymer y meini melin, a mala flawd; datguddia dy lywethau, noetha dy sodlau, dinoetha dy forddwydydd, dos trwy yr afonydd.
º3 Dy noethni a ddatguddir, dy warth hefyd a welir: dialaf, ac nid fel dyn y’th gyfarfyddaf.
º4 Ein gwaredydd ni, ei enw yw AR¬GLWYDD y lluoedd, Sanct Israel.
º5 Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ti ferch y Caldeaid: canys ni’th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd.
º6 Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di; ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.
º7 A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi.
º8 Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf wybod beth yw diepiledd.
º9 Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diep’ledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.
º10 Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni: dywedaist, Ni’m gwêl neb. Dy ildoethineb a’th wybodaeth a’th hurtiant;;i dywedaist yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi.
º11 Am hynny y daw amat ddrygfyd, yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad; a syrth .irnat ddinistr nis gelli ei ochelyd: ie, daw .irnat ddistryw yn ddisymwth, heb wybod i ti.
º12 Safyn awr gyda’th swynion, a chydag .imlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ‘ ymflinaist o’th ieuenctid; i edrych a elli wneuthur lles, i edrych a fyddi grymus,
º13 Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun. Safed yn awr astronomyddion y nefoedd, y rhai a dremiant ar y sêr, y rhai
º1 hysbysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat.
º14 Wele, hwy a fyddant fel sofl; y tân .i’u llysg hwynt, ni waredant eu heinioes o Ieddiant y fflam: ni bydd marworyn i vmdwymo, na than i eisiedd ar ei gyfer.
º15 Felly y byddant hwy i ti gyda’r i liai yr ymflinaist, sef dy farsiandwyr o’th ieuenctid; crwydrasant bob un ar ei iluedd; nid oes un yn dy achub di.
PENNOD 48
º1 GWRANDEWCH hyn, tŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a 1daethant allan o ddyfroedd Jwda, y rhai
º1 dyngant i enw yr ARGLWYDD, ac a soffant am DDUW Israel, nid mewn gwir?" lonedd, nac mewn cyfiawnder.
º2 Canys hwy a’u galwant eu hunain o’r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar DDUW Israel; enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd.
º3 Y pethau gynt a fynegais er y pryd liwnnw, a daethant o’m genau, a mi a’u, naethais; mi a’u gwneuthum yn ddisy¬mwth, daethant i ben.
º4 Oherwydd i mi wybod dy fod di yn ‘.iled, a’th war fel giewyn haearn, a’th ikiloen yn bres;
º5 Mi a’i mynegais i ti er y pryd hwnnw; ulroddais i ti cyn ei ddyfod; rhag dywedyd ohonot, Fy nelw a’u gwn.ieth, fy ugherfddelw a’m tawdd-ddelw a’u gorchmynnodd,
º6 Ti a glywaist, gwêl hyn oll; ac oni fynegwch chwithau ef? adroddais i ti bethau newyddion o’r pryd hwn, a phethau cuddiedig, y rhai ni wyddit oddi wrthynt.
º7 Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y dechreuad, cyn y dydd ni chlywaist son amdanynt: rhag dywedyd ohonot, Wele, gwyddwn hwynt.
º8 Ie, nis dywsit, ac nis gwyddit chwaith, nid agorasid dy glust y pryd hwnnw: canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon, a’th alw o’r groth yn droseddwr.
º9 Er mwyn fy enw yr oedaf fy llid, ac er fy mawl yr ymataliaf oddi wrthyt, rhag dy ddifetha.