ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd.
º19 Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y’th gysuraf?
º20 Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mben pob heol, fel tarw gwyllt mewn magi: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr ARGLWYDD, a cherydd dy DDUW.
º21 Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a’r feddw, ac nid irwy win.
º22 Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr ARGLWYDD, a’th DDUW di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o’th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ai yfed mwy:
º23 Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot: a thi a osodaist dy gorff fel y llawr, ac fel heol i’r rhai a elent drosto.
PENNOD 52
º1 TT EFFRO, deffro, gwisg dy nerth, Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerwsalem: canys ni ddaw o’th fewn mwy ddienwaededig nac aflan.
º2 Ymysgwyd o’r llwch, cyfod, eistedd.,-Jerwsalem: ymddatod oddi wrth rwymau dy wddf, ti gaelhferch Seion.
º3 Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yn rhad yr ymwerthasochi as nid ag arian y’ch gwaredir.
º4 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd DDUW, Fy mhobl a aeth i waered i’r Aifft yn y dechreuad, i ymdaith yno; a’r Asyriaid a’u gorthrymodd yn ddi-achos.
º5 Ac yn awr beth sydd yma i mi, medd yr ARGLWYDD, pan ddygid fy mhpbl ymaith yn rhad? eu llywodraethwy’r a wna iddynt udo, medd yr ARGLWYDD; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw.
º6 Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw: am hynny y cant wybod y dydd hwnnw, mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd: wele, myfi ydyw.
º7 Mor weddaidd ar y mynyddoedd; yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yo cyhoeddi heddwch; a’r hwn sydd yn’ mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdws* iaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy DDUW di sydd yn teyrnasu.
º8 Dy wylwyr a ddyrchafant lef; gyda’f llef y cydganant: canys gwelant lygad yn-llygad, pan ddychwelo yr ARGLWYDD. Seion.
º9 Bloeddiwch, cydgenwch, anialwdh. Jerwsalem: canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerw¬salem.
º10 Diosgodd yr ARGLWYDD fraich ei sancteiddrwydd yng ngolwg yr holl genhedloedd: a holl gyrrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein Duw ni.
º11 S! Ciliwch, ciliwch, ewch allan odd! yno, na chyffyrddwch â dim halogedig; ewch allan o’i chanol; ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr ARGLWYDD.
º12 Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffo y cerddwch: canys yr AR¬GLWYDD a â o’ch blaen chwi, a Duw Israel a’ch casgl chwi.
º13 Wele, fy ngwus a lwydda; efe a godir, a ddyrchefir, ac a fvdd uchel lawn.
º14 Megis y rhyt’eddudd ll.iwer wrthyty (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb< a’i bryd yn anad meibion dynion,)
º15 Felly y taenella efe genhedloedd lawer; brenhinoedd a gtieant eu genau wrtho ef; canys gwelant yr hya ai fynegasid.’riddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent.
PENNOD 53
º1 PWY a gredodd i’n hymadrodd.? ac i bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD?
º2 Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blag-aryn, ac fel gwreiddyn o dir sych: nid oes na phryd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef.
º3 Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwyr; gŵr gofidus, a chynefin a dolur: ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono.
º4 Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto