º1 LLEFA a’th geg, nac arbed, dyrchafa dy lais fel utgorn, a mynega i’m pobl eu camwedd, a’u pechodau i dŷ Jacob.
º2 Eto beunydd y’m ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw: gofynnant i’ mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesau at DDUW.
º3 Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac ms gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion.
º4 Wele, i ymryson â chynnen yr ymprydiwch, ac i daro a dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder.
º5 Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? ai crymu ei ben fel brwyaen ydyw, a thaemi sachliain a lludw daflo? ai hyn a eiwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr ARGLWYDD?
º6 Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau?
º7 Onid torri dy fara i’r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dy? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun?
º8 Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr, a’th iechyd a dardda yn fuan: a’th gyfiawnder a â o’th flaen; gogoniant yr ARGLWYDD a’th ddilyn.
º9 Yna y geiwi, a’r ARGLWYDD a etyb; y gwaeddi, ac efe a ddywed, Wele fi. Os bwri o’th fysg yr iau, estyn bys, a dy-wedyd oferedd;
º10 Os tynni allan dy enaid i’r newynog, a diwallu yr enaid cystuddiedig: yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a’th dywyllwch fydd fel hanner dydd:
º11 A’r ARGLWYDD a’th arwain yn wag.’" tad, ac a ddiwalla dy enaid ar sychder, ac a wna dy esgyrn yn freision: a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfr oedd.
º12 A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeil-adant yr hen ddiffeithleoedd; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gaewr yr adwy, yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt.
º13 O throi dy droed oddi wrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd; a galw y Saboth yn hyfrydwch, sanct yr ARGLWYDD yn ogoneddus; a’i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun:
º14 Yna yr ymhyfrydi yn yr ARGLWYDD, ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchel-feydd y ddaear, ac a’th borthaf ag cliteddlaeth Jacob dy dad: canys genau yr AR¬GLWYDD a’i llefarodd.
PENNOD 59
º1 WELE, ni fyrhawyd llaw yr .ARGLWYDD, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed:
º2 Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch Duw, a’cli pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo.
º3 Canys eich dwylo a halogwyd a gwaed, a’ch bysedd a chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd.
º4 Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd.
º5 Wyau asb a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weant: yr hwn a fwyty o’u hwyau a fydd farw, a’r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber.
º6 Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant a’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo.
º7 Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwinon: eu meddyhau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt.
º8 Ffordd heddwch nid adwaenant; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion: pwy bynnag a rodio yno, nid edwyn heddwch.