º1 ER mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi.
º2 A’r cenhedloedd a welant dygyfiawnder, a’r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr ARGLWYDD.
º3 Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr ARGLWYDD, ac yn dalaith frenhmol yn llaw dy DDUW.
º4 Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedit mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a’th dir, Beula: canys y mae yr ARGLWYDD yn dy hoffi, a’th dir a briodir.
º5 Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac a llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy DDUW o’th blegid di.
º6 Ar dy furiau di, Jerwsalem, y gosodais geidwaid, y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad: y rhai ydych yn cofio yr ARGLWYDD, na ddistewch,
º7 Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni sicrhau, ac hyd oni osodo Jerw¬salem yn foliant ar y ddaear.
º8 Tyngodd yr ARGLWYDD i’w ddeheu-law, ac i’w fraich nerthol, Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion; a meibion dieithr nid yfant dy win, yr hwn y llafuriaist amdano:
º9 Eithr y rhai a’i casglant a’i bwytânt , ac a foliannant yr ARGLWYDD; a’r rhai a’i cynullasant a’i hyfant o fewn cynteddoeddi fy sancteiddrwydd.
º10 Cyniweiriwch, cyniweiriwch trwy y pyrth: paratowch ffordd y bobl; palmentwch, palmentwch briffordd; di-g-aregwch hi: cyfodwch faner i’r bobloedd.
º11 Wele, yr ARGLWYDD a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear, Dywedwch wrth ferch Seion, Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod, wele ei gyflog gydag ef, a’i waith iS’i flaen.
º12 Galwant hwynt hefyd yn Bobl sanctaidd, yn Waredigion yr ARGLWYDD: tithau a elwir, Yr hon a geisiwyd, Dinas nis gwrthodwyd.
PENNOD 63
º1 PWY yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu.
º2 Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf?
º3 Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o’r bobl nid oedd un gyda mi, canys mi a’u sathraf hwynt yn fy nig, ac a’u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a’m holl wisgoedd a lychwinaf.
º4 Canys dydd dial sydd yn fy ngbalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth.
º5 Edrychais hefyd, ac nid oedd gyn-orthwywr, rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a’m hachubodd, a’m llidiowgrwydd a’m cynhaliodd.
º6 A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a’u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u cadernid a ddisgynnaf i’r llawr.
º7 Cofiaf drugareddau yr ARGLWYDD, a moliant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau.
º8 Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn lachawdwr iddynt.
º9 Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychiol-deb a’u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a’u dygodd hwynt, ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt.
º10 y Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn.
º11 Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a’i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a’u dygodd hwynt