Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/709

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

º6 Weie, ysgrifennwyd ger fy mron: ni thawaf; eithr talaf, ie, talaf i’w mynwes,

º7 Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, medd yr ARGLWYDD, y rhai a arogldanhasant ar y mynydd¬oedd, ac a’m cablusant ar y bryniau: am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i’w mynwes.

º8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll.

º9 Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a’m hetholedigion a’i hetifeddant, a’m gweision a drigant yno.

º10 Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glyn Achor yn orweddfa gwartheg, i’m pobl y rhai a’m ceisiasant.

º11 Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr ARGLWYDD, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i’r llu acw, ac a lenwch ddiod-offrwm i’r niferi acw.

º12 Rhifaf chwithau i’r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i’r lladdedigaeth: Alerwydd pan elwais chwi, nid atebasoch, pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf.

º13 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Wele, fy ngweision a fwytânt , a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawen-y chant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch:

º14 Wele, fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon, a chwithau a waeddwch rhag gofid calon, ac a udwch rhag cystudd ysbryd.

º15 A’ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion: canys yr ARGLWYDD DDUW a’th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall:

º16 Fel y bo i’r hwn a ymfendigo ar y ddaear, ymfendigo yn Nuw y gwirionedd; ac i’r hwn a dyngo ar y ddaear, dyngu i DDUW y gwirionedd: am anghofio y trallodau gynt, ac am eu cuddio hwynt o’m golwg.

º17 Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a’r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt.

º18 Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a’i phobl yn llawenydd.

º19 Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd.

º20 Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir.

º21 A hwy a adeiladant dai, ac a’u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth.

º22 Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo.

º23 Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr ARGLWYDD ydynt hwy, a’u hepil gyda hwynt.

º24 A bydd, cyn galw ohonynt, i mi ateb: ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf.

º25 Y blaidd a’r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a’r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr ARGLWYDD.


PENNOD 66

º1 FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw lleithig fy nhraed: mae y tŷ a adeiledwch i mi? ac mae y fan y gorffwysaf?

º2 Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr ARGLWYDD: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair.

º3 Yr hwn a laddo ych, sydd fel yr hwn a laddo ŵr; yr hwn a abcrtho oen, sydd fel yr hwn a dorfynyglo