pryniad yr hwn sydd seliedig, a’r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer.
º15 Oherwydd fel hyn y dywed AR¬GLWYDD y lluoedd, Duw Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon.
º16 Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, myfi a weddïais ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,
º17 O ARGLWYDD DDUW, wele, ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear, a’thi fawr allu ac a’th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti.
º18 Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr, cadarn, ARGLWYDD y, lluoedd yw ei enw;;
º19 Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl; ffrwyth ei weithredoedd;
º20 Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn, ac yn Israel, ac ymysg dynion eraill; ac a wnaethost i ti enw,, megis heddiw;
º21 Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dir yr Aifft, ag arwyddion, ac a rhyfeddodau, ac a llaw gref, ac a braich estynedig, ac ag ofn mawr;
º22 Ac a roddaist iddynt y wlad yma, yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
º23 A hwy a ddaethant i mewn, ac a’i meddianasant hi; ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith: ni wnaethant ddim o’r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur: am hynny y peraist i’r holl niwed hyn ddigwydd iddynt.
º24 Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a’r newyn, a’r haint: a’r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a’i gweli.
º25 A thi a ddywedaist wrthyf, O ARGLWYDD DDUW, Pryn i ti y maes ag arian, a chymer dystion: gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid. ‘
º26 Yna y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia, gan ddywedyd,
º27 Wele, myfi yw yr ARGLWYDD, DOTV pob cnawd: a oes dim rhy anodd i mi?
º28 Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi.
º29 A’r Caldeaid, y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a’i llosgant hi, a’r tai y rhai yr arogl-darthasant’ ar eu pennau i Baal, ac y tywalltasant’ ddiod-offrwm i dduwiau dieithr, i’m digio i.
º30 Oblegid meibion Israel, a meibion Jwda, oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o’u" mebyd: oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i a gweithredoedd eu dwylo, medd yr ARGLWYDD.
º31 Canys i’m digofaint, ac i’m llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb: „ —
º32 Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda, y rhai a wnaethant i’m digio i, hwynt-hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a’u proffwydi,. a gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem..
º33 Er i mi eu dysgu, gan foregodi i roddi addysg iddynt, eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth; eithr troesant ataf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau:
º34 Eithr gosodasant eu ffieidd-dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef.
º35 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i’w meibion a’u merched fyned trwy y tân i Moloch, yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd-dra hyn, i beri i Jwda bechu.
º36 Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD., Duw Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, Rhoddir hi i law brenin Babilon, trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint;