Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/748

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

oedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylch¬oedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr a defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr ARGLWYDD.

º14 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.

15 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna fam a chyfiawnder yn y tir.

º16 Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; 4 hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr ARGLWYDD ein cyfiawnder.

º17 Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel.

º18 Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd-offrwrn, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.

º19 A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,

º20 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser;

º21 Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac a’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion.

º22 Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi.

º23 Hefyd, gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,

º24 Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr ARGLWYDD, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt.

º25 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os fy nghyfamod â’r dydd ac a’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear:

º26 Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.


PENNOD 34

º1 Y GAIR yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, pan oedd Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, a holl deyrnasoedd y ddaear y rhai oedd dan lywodraeth ei law ef, a’r holl bobloedd, yn rhyfela yn erbyn Jerw¬salem, ac yn erbyn ei holl ddinasoedd hi, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel; DOS, a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn rhoddi y ddinas hon i law brenin Babilon, ac efe a’i llysg hi â thân:

º3 Ac ni ddihengi dithau o’i law ef, canys diau y’th ddelir, ac y’th roddir i’w law ef; a’th lygaid di a gant weled llygaid brenin Babilon, a’i enau ef a ymddiddan â’th enau di, a thithau a ei i Babilon.

º4 Er hynny, O Sedeceia brenin Jwda, gwrando air yr ARGLWYDD; Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD amdanat ti, Ni byddi di farw trwy y cleddyf:

º5 Mewn heddwch y byddi farw: a hwy a losgant beraroglau i ti, fel y llosgwyd i’th dadau, y brenhinoedd gynt, y rhai a fu o’th flaen di: a hwy a alarant amdanat ti, gan ddywedyd, O arglwydd! canys myfi a ddywedais y gair, medd yr ARGLWYDD.

º6 Yna Jeremeia y proffwyd a lefarodd wrth Sedeceia brenin Jwda yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem,

º7 Pan oedd llu brenin Babilon yn thyfela yn erbyn Jerwsalem, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda y rhai a adawsid, yn erbyn Lachis, ac yn erbyn Aseca: canys y dinasoedd caerog hyn a adawsid o ddinasoedd Jwda.

º8 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i’r brenin Sedeceia wneuthur cyfamod â’r holl bobl oedd yn Jerwsalem, am gyhoeddi iddynt ryddid;