Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/760

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

hines y nefoedd, a thywalll iddi hi ddiodydd-offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhin. oedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem.: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg.

º18 Ond er pan beidiasom ag arogl darthu i frenhines y nefoedd, ac a thywallt’ diod-offrwm iddi hi, bu arnom eisiau pob dim: trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni.

º19 A phan oeddem ni yn arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod-offrwm iddi; ai heb ein gwŷr y gwnaethom,ni iddi hi deisennau i’w haddoli hi, ac y tywalltasom ddiod-offrwm iddi?

º20 Yna Jeremeia a ddywedod wrth yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl a’i hatebasant ef felly, gan ddywedyd,

º21 Oni chofiodd yr ARGLWYDD yr arogl-darth a arogl-darthasoch chwi yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, chwychwi a’ch tadau, eich brenhinoedd a’ch tywysogion, a phobl y wlad? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef?

º22 Fel na allai yr ARGLWYDD gyd-ddwyn yn hwy, o achos drygioni eich gweithredoedd, a chan y ffiaidd bethau a wnaethech: am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd, ac yn syndod, ac yn felltith, heb breswylydd, megis y gwelir y dydd hwn.

º23 Oherwydd i chwi arogl-darthu, ac am i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD, ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau, nac yn ei dystiolaethau; am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel y gwelir heddiw.

º24 A Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, ac wrth yr holl wragedd, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, holl Jwda y rhai ydych yng ngwlad yr Aifft.

º25 Fel hyn y llefarodd ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Chwychwi a’ch gwragedd a lefarasoch a’ch genau, ac a gyflawnasoch a’ch dwylo, gan ddywedyd, Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom, am arogl-darthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod-offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch.

º26 Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, holl Jwda y rhai sydd yn, aros yng ngwlad yr Aifft; Wele, myfi a dyngais i’m henw mawr, medd yr ARGLWYDD, na elwir fy enw i mwyach, o fewn holl wlad yr Aifft yng ngenau un gŵr o Jwda, gan ddywedyd, Byw yw yr ARGLWYDD DDUW.

º27 Wele, mi a wyhaf arnynt hwy er niwed, ac nid er daioni: a holl wŷr Jwda y rhai sydd yng ngwlad yr Aifft, a ddifethir â’r cleddyf , ac â newyn, hyd oni ddarfyddont.

º28 A’r rhai a ddihangant gan y cleddyf, ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda, fyddant ychydig o nifer: a holl weddill Jwda, y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno, a gant wybod gair pwy a saif, ai yr eiddof fi, ai yr eiddynt hwy.

º29 A hyn fydd yn arwydd i chwi, medd yr ARGLWYDD, sef yr ymwelaf a chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i’ch erbyn chwi er niwed.

º30 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, myfi a roddaf Pharo-hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef, fel y, rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn, a’r hwn oedd yn ceisio ei einioes.


PENNOD 45

º1 Y GAIR yr hwn a lefarodd Jeremeia y « proffwyd wrth Baruch mab Nereia, pan ysgrifenasai efe y geiriau hyn o enau Jeremeia mewn llyfr, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, gan ddywedyd,

º2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyt ti, Baruch;

º3 Tydi a ddywedaist, Gwae fi yn awr! canys yr ARGLWYDD a chwanegodd dristwch ar fy ngofid; myfi a ddiffygiais yn fy ochain, ac nid wyf yn cael gorffwystra.

º4 Fel hyn y dywedi wrtho ef, Yr ARGLWYDD a ddywed fel hyn; Wele, myfi a ddistrywiaf yr hyn a adeiledais, a mi a ddiwreiddiaf yr