º12 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a’i mudant hi, ac a wacant ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau.
º13 A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt.
º14 Pa fodd y dywedwefa chwi, Cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel?
º15 Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o’i dinasoedd, a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa, medd y Brenin, a’i enw ARGLWYDD y lluoedd.
º16 Agos yw dinistr Moab i ddyfod, a’i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest.
º17 Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o’i hamgylch; a phawb a’r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a’r wialen hardd!
º18 O breswylferch Dibon, disgyn o’th ogoniant, ac eistedd mewn syched; cahys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd.
º19 Preswylferch Aroer, saf ar y fford<l a gwylia; gofyn i’r hwn a fyddo yn ffoi, ac i’r hwn a ddihango, a dywed, Beth a ddarfu?
º20 Gwaradwyddwyd Moab, canys hi a ddinistriwyd: udwch, a gwaeddwch; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab;
º21 A barn a ddaw ar y tir gwastad, ar Holon, ac ar Jahasa, ac ar Meffaath,
º22 Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Bethdiblathaim,
º23 Ac ar Ciriathaim, ac ar Bethgamul, ac ar Bethmeon.
º24 Ac ar Cerioth, ac ar Bosra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac ytt agos.
º25 Corn Moab a ysgythrwyd, a’i braich hi a dorrwyd, medd yr ARGLWYDD.
º26 Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr ARGLWYDD: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd.
º27 Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti? a gafwyd ef ymysg lladron? canys er pan soniaist amdano, yr ymgynhyrfaist.
º28 Trigolion Moab, gadewch y dinas¬oedd, ac arhoswch yn y graig, a byddwch megis colomcn yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twil.
º29 Nyni a glywbom falchder Moab, (y mae hi yn falch lawn,) ei huchder, ei rhyfyg, a’i hymchwydd, ac uchder ei chalon.
º30 Myfi a adwaen ei llid hi, medd yr ARGLWYDD; ond nid fclly y bydd; ei chelwyddau hi ni wnânt felly.
º31 Am hynny yr udaf fi dros Moab, ac y gwaeddaf dros holl Moab: fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir-heres.
º32 Myfi a wylaf drosot ti, gwinwydden Sibma, ag wylofain Jaser; dy gangau a aethant dros y môr, hyd fôr Jaser y cyrhaeddant: yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy firwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf gwin.
º33 A dygir ymaith lawenydd a gorfole44 o’r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest.
º34 O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd.
º35 Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a’r hwn sydd yn arogl-darthu i’w dduwiau.
º36 Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir-heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd.
º37 Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain.
º38 Ar holl bennau tai Moab, a’i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr ARGLWYDD.
º39 Hwy a udant, gan ddywedyd. Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o’i hamgylch.
º40 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, efe a eheda fel eryr, ac a leda ei, adenydd dros Moab.