21 Ie, casglaf chwi, a chwythaf arnoch a than fy llidiowgrwydd, fel y todder chwi yn ei chanol hi.
22 Fel y toddir arian yng nghanol y pair, felly y toddir chwi yn ei chanol hi; fel y gwypoch mai myfi yr ARGLWYDD a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch.
23 H A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
24 Dywed wrthi hi, fab dyn, TLyw y tir sydd heb ei buro, heb lawio amo yn nydd dieter.
25 Cydfradwriaeth ei phroffwydi o'i mewn, sydd fel Hew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o'i mewn.
26 Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyf-raith, ac a halogasant fy mhethau sanct¬aidd: ni wnaethant ragor rhwng cyseg-redig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a'r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt.
27 Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu' ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.
28 Ei phroffwydi hefyd a'u priddasant hwy a chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, a'r ARGLWYDD heb ddy¬wedyd.
29 Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y
truan a'r tlawd; y dieithr hefyd a orthrym¬asant yn anghyfiawn.
30 Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o'm blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis-cefais.
31 Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt, a than fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt, medd yr ARGLWYDD DDUW.
PENNOD 23
1 YNA y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, *
2 Ha fab dyn, dwy wraig oedd ferched i'r un fam;
3 A phuteiniasant yn yr Ain't, yn eu hieuenctid y puteiniasant: yno y pwys-wyd ar eu bronnau, ac yno yr ysigasant ddidennau eu morwyndod.
4 A'u henwau hwynt oedd, Ahola yr hynaf, ac Aholiba ei chwaer: ac yr oedd¬ynt yn eiddof fi, a phlantasant feibion a merched. Dyma eu henwau; Samaria yw Ahola, a Jerwsalem Aholiba.
5 Ac Ahola a buteiniodd pan oedd eiddof fi, ac a ymserchodd yn ei chariadau, ei chymdogion yr Asyriaid;
6 Y rhai a wisgid a glas, yn ddugiaid ac yn dywysogion, o wyr ieuainc dymunol i gyd, yn farchogion yn marchogaeth meirch.
7 Fel hyn y gwnaeth hi ei phuteindra a hwynt, a dewis feibion Assur oil, a chyda'r rhai oll yr ymserchodd ynddynt; a'u holl eilunod hwynt yr ymhalogodd hi.
8 Ac ni adawodd ei phuteindra a ddygasai hi o'r Ain't: canys gorweddasent gyda hi yn eu hieuenctid, a hwy a ysigasent fronnau ei morwyndod hi, ac a dywalltascnt cu putcindra ami.
9 Am hynny y rhoddms hi yn llaw ei chariadau, set" yn llaw meibion Assur, y rhai yr ymserchodd hi ynddynt.
10 Y rhai hynny;i ddatguddiasant ei noethni hi: hwy a gymerasant ei meibion hi a'i merched, ac a'i Ikiddasant hithau a'r cleddyf: a hi a actli yn enwog ymysg gwragedd: canys gwnaethent farn ami.
11 A phan welodd ei chwaer Aholiba, hi a lygrodd ei thraserch yn fwy na hi, a'i phuteindra yn fwy na phuteindra ei chwaer.
12 Ymserchodd ym meibion Assur, y dugiaid a'r tywysogion o gymdogion, wedi eu gwisgo yn wych iawn, yn farchogion yn marchogaeth meirch, yn wyr ieuainc dymunol i gyd.
13 Yna y gwelais ei halogi hi, a bod un ffordd ganddynt ill dwy,
14 Ac iddi hi chwanegu ar ei phutein¬dra: canys pan welodd wyr wedi eu llunio ar y pared, delwau y Caldeaid wedi eu llunio a fermilion,
15 Wedi eu gwregysu a gwregys