am eu llwynau, yn rhagori mewn lliwiau am eu pennau, mewn golwg yn dywysogion oil, o ddull meibion Babilon yn Caldea, tir eu genedigaeth:
16 Hi a ymserchodd ynddynt pan eu gwelodd a'i llygaid, ac a anfonodd genhadau atynt i Caldea.
17 A meibion Babilon a ddaethant ati i wely cariad, ac a'i halogasant hi a'u puteindra; a hi a ymhalogodd gyda hwynt, a'i meddwl a giliodd oddi wrthynt.
18 Felly y datguddiodd hi ei phut¬eindra, ac y datguddiodd ei noethni. Yna y ciliodd fy meddwl oddi wrthi, fel y ciliasai fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi.
19 Eto hi a chwanegodd ei phuteindra, gan gofio dyddiau ei hieuenctid, yn y rhai y puteiniasai hi yn nhir yr Aifft.
20 Canys hi a ymserchodd yn ei gordderchwyr, y rhai yr oedd eu cnawd fel cnawd asynnod, a'u diferlif fel diferlif meirch.
21 Felly y cofiaist ysgelerder dy ieuenc-tid, pan ysigwyd dy ddidennau gan yr Eifftiaid, am fronnau dy ieuenctid.
22 Am hynny, Aholiba, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cyfodi dy gariadau i'th erbyn, y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt, a dygaf hwynt i'th erbyn o amgylch:
23 Meibion Babilon a'r holl Galdeaid, Pecod, a Soa, a Coa, a holl feibion Assur gyda hwynt; yn wyr ieuaine dymunol, yn ddugiaid a thywysogion i gyd, yn ben- am hynny dw di&au dy ysgelerdtts a'th aethiaid ac yn enwog, yn. marchogaetfa; buteindra.: meirch, bawb ohonynt. ;.
24 A deuanti'th erbyn a menni, cerbydau, ac olwynion, ac a chynulleidfa o bobl; y gosodant i'th erbyn oddi amgylch astalch, a tharian, a helm: a rhoddaf o'u blaen hwynt farnedigaeth, a hwy a'th farnant barnedigaethau eu nun.
25 A mi a osodaf fy eiddigedd yn dy erbyn, a hwy a wnant a thi yn llidiog: dy drwyn a'th glustiau a dynnant ymaith, a'th weddill a syrth gan y cleddyf: hwy a ddaliant dy feibion a'th fetched, a'tb weddill a ysir gan y tân.
26 Diosgant hefyd dy ddillad, a dygant dy ddodrefn hyfryd.
27 Felly y gwaaf i'th ysgelerder, a'th buteindra o dir yr Ain't, beidio a thi, fel na chodech dy lygaid atynt, ac na cnofiech yr Aifft mwy.
28 Canys fel hyn y dywed yr AR- GLWYDD DDUW, Wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gaseaist, yn llaw y rhai yn ciliodd dy feddwl oddi wrthynt.
29 A gwn&nt a thi yn atgas, ac a gymerant dy holl lafur, ac a'th adawant di yn llom ac yn noeth: a datguddir noethni dy buteindra; ie, dy ysgelerder a'th buteindra.
30 Mi a wnaf hyn i ti, am buteinio ohonot ar ôl y cenhedloedd, am dy halogi gyda'u heilunod hwynt.
31 Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di.
32. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Dwfh a helaeth gwpan dy chwaer a yfi: ti a fyddi i'th watwar ac i'th ddir- mygu: y mae llawer yn genni ynddo.
33 Ti a lenwir &. meddwdod ac a gofid, o gwpan syndod ac anrhaith, o gwpan dy chwaer Samaria.
34 Canys ti a yfi, ac a sugni ohono; drylli hefyd ei ddarnau ef, ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun: canys myfi a'i lleferais, medd yr ARGLWYDD DDUW.
35 Am hynny fel hyn y dywed yr AR- GLWXDtD DDUW; Oherwydd i ti fy ang- iK)fio». ate bwrw ohonot tu ôl i'th gefn; am hynny dwg dithau dy ysgelerder a'th buteindra.
36 Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrthyf, A ferni di, fab dyn, Ahola ac Aholiba? ie, mynega iddynt eu ffieidd-dra;
37 Iddynt dorri priodas, a bod gwaed' yn eu dwylo; ie, gyda'u heilunod y puteiniasant; eu meibion hefyd y rhai a a'u blantasant i mi, a dynasant trwy dan iddynt i'w hysu.
38 Gwnaethant hyn ychwaneg i taif-fy nghysegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw, a'm Sabothau a halogasant. ,
39 Canys pan laddasant eu meibion i'w heilunod, yna y daethant i'm cysegr yn y dydd hwnnw, i'w halogi ef: ac wele, fel hyn y gwnaethant yng nghanol fy nhy.