Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/807

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

16 Yn amider dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol a thrais, a thi a bechaist: am hynny y'th halogaf allan o fynydd Duw, ac y'th. ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd.

17 Balchiodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dŷ, loywder: bwriaf di i'r llawr, o flaen brenhinoedd y'th osodaf, fel yr edrychont arnat.:

18 Trwy amider dy anwiredd, ag an;-wiredd dy farchnadaeth, yr halogaist dy gysegroedd: am hynny y dygaf dan allaa o'th ganol, hwnnw a'th ysa; a gwnaf di yn: lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a'tb welant.

19 Y rhai a'th adwaenant oll ymysg y bobloedd, a synnant o'th achos: dychrya fyddi, ac ni byddi byth.

20 Yna gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

21 Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Sidon, a phroffwyda yn ei herbyn hi,

22 A dywed. Fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd DDUW; Wele fi i'th erbyn, Sidon; fel y'm gogonedder yn dy ganol, ac y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan wnelwyf ynddi farnedigaethau, ac y'm sancteiddier ynddi.

23 Canys anfonaf iddi haint, a gwaed i'w heolydd; a bernir yr archolledig o'i mewn a'r cleddyf, yr hwn fydd ami oddi amgylch; a chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

24 Ac ni bydd mwy i dŷ Israel, o'r holl rai o'u hamgylch a'r a'u dirmygasant, ysbyddaden bigog, na draenen ofidus; a chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.

25 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pan gasglwyf dy Israel o fysg y bobloedd y rhai y gwasgarwyd hwy yn eu plith, ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng ngolwg y cenhedloedd; yna y trigant yn eu gwlad a roddais i'm gwas Jacob.

26 Ie, trigant ynddi yn ddiogel, ac adeiladant dai, a phlannant winllannoedd; a phreswyliant mewn diogelwch, pan wnelwyf farnedigaethau a'r rhai oll a'u dirmygant hwy o'u hamgylch; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD eu Duw.


PENNOD 29

1 Yn y degfed mis o'r ddegfed flwyddyn, ar y deuddegfed dydd o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD atai, gan ddywedyd,

2 Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aifft oil.

3 Llefara, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi i'th erbyn, Pharo brenin yr Ain't, y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, Eiddof fi yw fy afon, a mi a'i gwneuthum hi i mi fy hun.

4 Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau.

5 A mi a'th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd; syrthi ar wyneb y maes, ni'th gesglir, ac ni'th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y'th roddais yn ymborth.

6 A holl drigolion yr Aifft a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, atrt.iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel.

7 Pan ymaflasant ynot erbyn dy law, ti a dorraist, ac a rwygaist eu holl ysgwydd: a phan bwysasant arnat, ti a dorraist, ac a wnaethost i'w holl arennau sefyll.

8 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn dwyn arnat gleddyf, a thorraf ymaith ohonot ddyn ac anifail.

9 A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith; a chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: am iddo ddywedyd, Eiddof fi yw yr afon, a myfi a'i gwneuthum.

10 Am hynny wele fi yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig, ac yn anghyfannedd, o dwr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia.

11 Ni chyniwair troed dyn trwyddi, ac ni chyniwair troed anifail trwyddi, ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd.